Awgrym y bydd Wcráin yn cael defnyddio mwy o arfau pellgyrhaeddol
Mae Arlywydd America, Joe Biden wedi awgrymu y bydd yn gadael i Wcráin ddefnyddio arfau sydd yn mynd cyrraedd yn bell yn erbyn Rwsia.
Yn gyson mae'r Arlywydd Zelensky wedi bod yn gofyn i gael llai o gyfyngiadau ar yr arfau maent yn eu derbyn o'r Unol Daleithiau.
Yn ôl swyddogion mae'r cyfyngiadau wedi gwneud hi'n anos ymladd yn erbyn Rwsia.
Yn y gorffennol mae America wedi bod yn gyndyn i roi arfau allai gael eu tanio at dargedau yn nwfn tu fewn i Rwsia am fod yna bryder am ffyrnigo'r gwrthdaro.
Ond erbyn hyn mae Wcráin wedi cael defnyddio taflegrau i dargedu ardaloedd ar y ffin ble mae milwyr Rwsia yn eu defnyddio.
Dyw Rwsia ddim eto wedi gwneud unrhyw sylwadau am yr awgrym diweddaraf. Yn y gorffennol mae'r Arlywydd Putin wedi dweud y byddai codi'r cyfyngiadau yn "achosi problemau difrifol".
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Gwladol America, Antony Blinken ac Ysgrifennydd Tramor Prydain, David Lammy gyfarfod Volodymyr Zelensky yn ddiweddarach yn Kyiv.
Bwriad y cyfarfod meddai Blinken yw i ddeall beth yw "amcanion" Wcráin â'r hyn "allwn ni wneud i'w cefnogi i gwrdd â'r gofynion hynny".