Newyddion S4C

Taliadau tanwydd: Gaeaf 'hynod o heriol' i bensiynwyr

11/09/2024
Hen bobl

Fe fydd y gaeaf yma’n “hynod o heriol i filiynau o bensiynwyr” o Gymru a Lloegr yn dilyn pleidlais ddydd Mawrth a fydd yn arwain at dorri taliadau tanwydd gaeaf.

Dywedodd cyfarwyddwr elusen Age UK ei bod yn “hynod siomedig” gyda’r canlyniad gan ddweud y bydd yn gwneud “pensiynwyr tlawd yn dlotach.”

Daw wedi i Aelodau Seneddol bleidleisio yn erbyn cynnig gan y Ceidwadwyr i rwystro cynlluniau’r llywodraeth i dynnu’r taliadau yn ôl.

Mae'r Llywodraeth Lafur yn dweud eu bod wedi cyflwyno'r toriadau “o achos cyflwr economaidd y wlad”.

Mae'r newidiadau yn golygu na fydd dros 10 miliwn o bensiynwyr yn derbyn taliadau tanwydd oedd rhwng £200 a £300 y flwyddyn. 

Yn ôl Caroline Abrahams, mi fydd y gaeaf yma yn “hynod o heriol” i filiynau o hen bobl oedd yn dibynnu ar y taliadau er mwyn gallu talu eu biliau. 

“Y gwir amdani yw y bydd gorfodi’r polisi yma, fel y mae’r llywodraeth yn ei wneud, yn gwneud miliynau o bensiynwyr tlawd yn dlotach a ‘dyn ni methu deall pam fod rhai gweinidogion yn mynnu mai hyn yw’r peth cywir i wneud,” meddai. 

Dim ond pobl sydd ar incwm isel ac yn derbyn rhai budd-daliadau fydd bellach yn cael y taliadau.

Mae’r polisi wedi cael ei beirniadu’n llym gan rai o'r prif undebau llafur, gydag Unite a Public and Commercial Services Union (PCS) yn dweud bod angen ail ystyried, tra bod Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) hefyd wedi mynegi pryderon.

Wrth siarad â Sky News, mae’r Gymraes, y gyflwynwraig Carol Vorderman hefyd wedi galw ar y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, i ymddiheuro i bensiynwyr yn dilyn y bleidlais.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.