Harris a Trump yn mynd benben mewn dadl deledu
Fe wnaeth cyn arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump a’r is-lywydd Kamala Harris gyfarfod ar gyfer eu dadl gyntaf fel rhan o’r ras arlywyddol nos Fawrth.
Mewn dadl 90 munud o hyd yn nhalaith Philadelphia, fe wnaeth y ddau drafod materion yn ymwneud a mewnfudo, yr economi, y rhyfel yn Gaza a Wcráin, yn ogystal â pholisïau erthylu.
Yn ystod y ddadl, fe wnaeth Trump bortreadu Harris fel gwleidydd o’r adain chwith eithafol a fyddai’n ceisio sicrhau ffiniau agored ac atal pobl rhag cadw drylliau.
Roedd hefyd yn gyson yn cyfeirio at ei chysylltiad agos â’r Arlywydd Biden ac yn ei galw'n “Marxist.”
Tactegau Kamala Harris oedd cwestiynu gallu Trump i arwain a dweud ei fod yn berson “gwarthus.”
Ar sawl adeg yn ystod y ddadl roedd Harris yn ceisio peidio chwerthin tra roedd Donald Trump yn siarad.
Newyddion ffug
Dywedodd Harris y dylai pobl fynd i rali Donald Trump er mwyn gweld nifer yn “gadael yn gynnar oherwydd eu bod wedi blino a’u diflasu.”
Wrth drafod polisïau yn ymwneud â mudo, fe wnaeth Trump gyfeirio at fudwyr o Haiti yn dwyn a bwyta anifeiliaid anwes eu cymdogion yn Springfield, Ohio. Mae'r stori yn un ffug.
“Yn Springfield maen nhw’n bwyta cŵn. Mae’r bobl yn dod i mewn ac maen nhw'n bwyta cathod.”
Mae swyddogion eisoes wedi gwadu’r honiadau.
Yn ystod y ddadl fe wnaeth Donald Trump hefyd amddiffyn penderfyniad rhai taleithiau i wrthod rhoi'r hawl i ferched i gael erthyliad. Ond fe ddywedodd Kamala Harris bod polisi'r taleithiau hynny yn “sarhaus i fenywod America.”