Merch o’r Cymoedd wedi perfformio yng nghyngerdd Adele
Merch o’r Cymoedd wedi perfformio yng nghyngerdd Adele
Pan deithiodd Bonnie Miles o’r Cymoedd i’r Almaen er mwyn gweld ei harwr yn canu, doedd hi ddim wedi disgwyl cael gwahoddiad i ganu ar y llwyfan.
Fe waeth Bonnie, 18 oed o Penrhiwceiber gymryd y cyfle arbennig pan ddaeth cais o’r llwyfan yn gofyn a oedd unrhyw un eisiau canu cyn i’r gantores Adele ddechrau ei set.
Roedd y gyngerdd yn rhan o daith 10 niwrnod ‘Munich Residency’ Adele dros yr haf.
Dywedodd Bonnie, “Roedd fy nheulu i gyd yn y gynulleidfa, ac roedden nhw yn pwyntio a sgrechian i gael fi i fynd lan i ganu, a naethon nhw ddewis fi.
“Yn syth ar ôl i fi fynd ar y llwyfan a dewis fy nghân, fe wnes i droi rownd yn syth a dechrau crynu wrth weld y miloedd o bobl oedd yn edrych arna i ac yn aros i glywed fi yn canu.
“Roedd y profiad wedi rhoi teimlad i fi na allai esbonio, teimlad o hunan falchder.”
'Cyfle unwaith mewn oes'
Ers yn ifanc, canu a cherddoriaeth yw popeth i Bonnie. Mae’r profiad diweddar wedi ei gwneud yn “fwy penderfynol” i ganu a gweld ei breuddwydion yn dod yn wir.
“Rwy’n hyderus mai dim ond y dechrau yw hyn ac y bydd fy nhaith yn parhau i ddatblygu. Dwi wedi breuddwydio am hyn ers blynyddoedd, a 'dw i wedi cael cyfle unwaith mewn oes.
“Wedi fy magu yn y Cymoedd, roeddwn yn aml yn amau fy ngallu i gyflawni cerrig milltir arwyddocaol yn fy ngyrfa ganu.
“Hwn oedd y profiad mwyaf brawychus i mi ei wynebu erioed, ac eto dyma'r peth mwyaf rwyf wedi ei gyflawni hyd yn hyn.”