Huw Edwards wedi 'difetha enw da'r gorfforaeth' medd cadeirydd y BBC
Mae'r cyn-gyflwynydd Huw Edwards wedi "difetha enw da'r gorfforaeth" yn ôl cadeirydd y BBC.
Fe gafodd y cyfarwyddwr cyffredinol, Tim Davie, a'r cadeirydd Samir Shah eu holi gan Bwyllgor Cyfathrebu a Digidol Tŷ'r Arglwyddi ar eu strategaeth ar gyfer y dyfodol.
Wrth gael ei holi ddydd Mawrth, dywedodd Dr Shah wrth y pwyllgor: "Does dim byd pwysicach nag ymddiriedaeth y cyhoedd yn y BBC, ac rydym yn geidwaid yr ymddiriedaeth honno ac mae’r hyn a wnaeth Huw Edwards wedi difetha enw da'r BBC, felly rydym yn cymryd hynny o ddifrif.
"Dylwn ddweud, roedd yn sioc darganfod - pan gafodd ei gyhoeddi, pan gafodd ei gyhuddo - ei fod wedi byw bywyd dwbl.
"Ar y wyneb, roedd yn gyflwynydd newyddion dibynadwy, ond yn gyfrinachol, roedd yn ffigwr a oedd wedi gwneud y pethau mwyaf echrydus."
Ychwanegodd Dr Shah ei fod yn "adnabod" y cyflwynydd ar ôl goruchwylio materion cyfoes yn y BBC ddegawdau yn ôl.
Mae staff eraill fu’n gweithio gydag ef "yn teimlo’n grac ac wedi eu bradychu" gan Edwards, meddai.
Ychwanegodd Mr Shah: "Gofynnais iddo i roi adroddiad i mi o’r penderfyniadau a wnaethant yn ystod y flwyddyn honno. Yna fe wnaethon ni adolygu'r penderfyniadau hynny, a chredwn, fel y mae Tim wedi’i ddweud, ac fe ddywedom yn ein datganiad, fod y penderfyniadau a wnaeth Tim a’i dîm wedi’u gwneud gyda bwriadau da.
“Roedd y rhain yn benderfyniadau cymhleth iawn, ac o ystyried y dystiolaeth oedd ar gael iddyn nhw ar y pryd, fe wnaethon nhw benderfyniadau rhesymol ar sail y dystiolaeth. Felly fe wnaethon ni ei gefnogi, ac rydyn ni'n parhau i'w gefnogi.”
'Dylai'r arian gael ei ddychwelyd'
Fe wnaeth y BBC gyfaddef iddynt gael gwybod bod Edwards wedi cael ei arestio ym mis Tachwedd.
Ond fe barhaodd y gorfforaeth i'w gyflogi am tua phum mis nes iddo adael ar gyngor meddygol ym mis Ebrill eleni.
Mae'r BBC wedi ysgrifennu at Edwards yn gofyn iddo ddychwelyd dros £200,000 a dalwyd iddo ar ôl cael ei arestio ym mis Tachwedd.
Dywedodd Mr Davie: "Rydym wedi gwneud y cais ffurfiol, ac ni allaf fynd i ormod o fanylion, ond mae trafodaethau ar y gweill, ond does gen i ddim newyddion pellach, heblaw bod safbwynt y BBC yn glir, dylai'r arian gael ei ddychwelyd, ac rydym wedi gwneud y cais."
Ychwanegodd Mr Davie nad oedd wedi gosod terfyn amser ond eu bod yn "disgwyl gwneud cynnydd a chael ateb".
Bydd y BBC yn "archwilio" y broses gyfreithiol os bydd Edwards yn gwrthod, meddai.
Fe blediodd Edwards, 63, yn euog ym mis Gorffennaf i gyhuddiadau o gael lluniau anweddus o blant, gyda saith o'r 41 o'r math mwyaf difrifol.
Roedd wedi gweithio i'r BBC am 40 o flynyddoedd.
Fe gyflwynodd raglen Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Elizabeth yn 2012, y Jiwbilî Platinwm yn 2022 yn ogystal â phriodas Tywysog a Thywysoges Cymru yn 2011 a phriodas Dug a Duges Sussex yn 2018.
Fe roedd hefyd wedi cyhoeddi marwolaeth y Frenhines Elizabeth II yn 2022, ac fe gyflwynodd ddarllediad y gorfforaeth o goroni'r Brenin Charles y llynedd.