'Marw yn y gwely heb deulu': Profiadau gweithwyr ysbytai yn ystod pandemig Covid-19
'Marw yn y gwely heb deulu': Profiadau gweithwyr ysbytai yn ystod pandemig Covid-19
Dyma, mwy na thebyg o'dd yr her fwyaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd. Ceisio delio a feirws newydd a pheryglus.
Ym mis Mai 2020, cawson ni'r cyfle i gwrdd â staff yn Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd wrth ymateb i don gyntaf Covid.
"O'n i'n cael anxiety bob dydd o ran be o'dd yn disgwyl fi yn y gwaith."
"Sa i'n credu bod dim un o'n ni wedi ystyried faint mor galed fydde hwnna i rywun i farw yn gwely heb y teulu."
Mae Bethan Gibson yn Feddyg Ymgynghorol Gofal Dwys yn un o'r ysbytai Cymru gafodd ei daro waethaf yn ystod y pandemig.
"Lot mwy o bobl yn marw na be 'dan ni 'di arfer.
"Oedd hwnna'n anodd pan o't ti'n trio dy orau i wneud nhw'n well. Ac yn y diwedd, o'n nhw'n marw ac o'dd hwnna anodd i ni gyd yma."
Beth am adael i bobl wybod dros y ffôn?
"O'dd hwnna'n erchyll. Gan fod neb yn dod i weld y claf, o'n ni'n trio bod yma i'r claf.
"Fel ymgynghorydd, o'dd e'n cwympo arnom ni i siarad i'r teuluoedd."
Ystyried effaith y pandemig ar staff a'r Gwasanaeth Iechyd yn ehangach mae ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig erbyn hyn gyda thystion o Gymru yn siŵr o ymddangos yn ystod y tri mis nesa.
Cyn hynny, cyfle i fargyfreithiwr yr ymchwiliad amlinellu'r nod.
"Stay at home. Protect the NHS. Save lives. The focus of the inquiry's module three hearings will be on some of those words and the ultimate questions.
"Did we protect the NHS? Did we save lives?"
Yn y cyfamser, mae'r grwpiau sy'n cynrychioli teuluoedd yn dal i alw am ymchwiliad penodol i Gymru.
Yn absenoldeb hwnnw, maen nhw am weld yr ymchwiliad hwn yn gofyn cwestiynau called i Lywodraeth Cymru.
"There's been over 12,500 deaths from Covid in Wales. A Welsh specific public inquiry was refused by the Welsh Government.
"This group is committed to securing scrutiny of all decision-making relevant to Wales in this inquiry."
Mae gan feddygon amlwg hefyd awgrymiadau.
"Ni ddim yn cael hyfforddiant fel doctoriaid ar sut i fod yn pandemig. Ni'n gwybod sut i'w drin ond sut ydyn ni'n modelu gwasanaethau a delio ag ef o ddydd i ddydd ac i ddelio ag ef yn emosiynol?
“Dyna beth fi'n moyn clywed. Sut byddwn ni'n wneud hwnna'n gwahanol yn y dyfodol."
Wnaeth llawer ddioddef yn y pandemig ac mae'r ôl-effeithiau dal yn amlwg. Mae bron dwywaith y nifer o gleifion ar restrau aros nawr o gymharu â dechrau'r pandemig.
A'r pwysau ar staff cynddrwg ag erioed. Digon i'w drafod yn yr ystafell hwn rhwng nawr a mis Rhagfyr.