Ynys Môn: Amheuon am gynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear newydd ar safle Wylfa
Ynys Môn: Amheuon am gynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear newydd ar safle Wylfa
Yn y pellter ond o fewn cyrraedd. Dyna oedd neges Llywodraeth Geidwadol Prydain am ffawd Wylfa.
"You could have a big EPR and a small modular reactor as well. We're now working on all this very, very fast."
"Wylfa is a fantastic site because it can do gigawatt power and small modular reactors."
"Ynys Môn has a vital role in delivering our nuclear ambitions."
Ond gyda Llafur wrth y llyw yn San Steffan erbyn hyn mae amheuon y gallai'r cynlluniau newid eto.
Yn ôl adroddiadau, mae'r Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband yn awyddus i adolygu'r cynllun i godi atomfa sylweddol er mwyn cyflymu'r broses o gynhyrchu ynni.
Mae awgrym y byddai o'n ffafrio adweithyddion llai fyddai'n dechrau gweithio'n gynt.
Ond mae'r newid trywydd heddiw yn deimlad cyfarwydd i bobl Ynys Môn.
"Mae'n fwy o ansicrwydd dros y safle yn Ynys Môn. Dyma mae trigolion yr ynys wedi byw efo ers dros ddegawd.
"Dw i'n erfyn ar y Llywodraeth newydd i roi'r sicrwydd i ni. Beth bynnag ydy'r penderfyniad, ni angen gwybod yn Ynys Môn os ydyn nhw mynd am orsaf bychan neu am orsaf mawr ar yr ynys."
Yn gynharach eleni, cyn yr Etholiad Cyffredinol cydnabod gwerth y safle wnaeth Keir Starmer mewn cyfweliad a'r rhaglen hon.
"We'll have to look at it carefully if we do come into power. I know it's a prime candidate and how much it would mean to Anglesey."
Mae awgrym heddiw fod yr ansicrwydd a'r diffyg atebion am y safle yn cael effaith ar faint y gweithlu.
Yn ôl Sefydliad y Diwydiant Niwclear, 40% yn llai o swyddi yn y sector niwclear yng Nghymru o gymharu â deng mlynedd yn ôl.
Ac Ynys Môn i weld ar ei cholled fwy nag unrhyw le arall yn y DU.
Dros y ffin, roedd 'na gynnydd o 65% yn nifer y swyddi o fewn y sector. A hynny'n fawr o gysur yng nghanol yr ynys heddiw.
"Y ffeithiau ni angen mwy na dim byd. Cyn belled mae gan rhywun y ffeithiau am rywbeth mor bwysig fedrwn ni symud ymlaen yn well.
"Dydy'r ansicrwydd ddim yn helpu chwaith rhwng y pleidiau."
"Mae safle Wylfa 'di bod yn dipyn bach o political football. Gaddo un peth i gael mwy o bleidleisiau a gaddo rhywbeth arall y diwrnod wedyn."
"Mae'n codi calon pawb a wedyn dydy o ddim. Gwnewch eich penderfyniad!"
"'Sna'm byd arall yma. Mae gymaint o hogia wedi colli gwaith yma. Ni wirioneddol angen gwaith yn Sir Fôn."
Mae'r amheuon diweddaraf yn brawf o ba mor wleidyddol ydy Wylfa.
Dan y Llywodraeth Geidwadol gynt roedd sawl cyhoeddiad yn y misoedd cyn yr haf.
Ond o dan y Llywodraeth Lafur newydd mae awgrym y byddan nhw'n ffafrio yr adweithyddion llai.
Mae 'na alw ar eglurdeb gan bobl Môn a'r sector yn ehangach.
"Mae angen lot o bŵer trydan arnom ni o ddull sy'n ddi-garbon. Felly, bydd eisiau nid jyst un mawr yn Wylfa ond lot o rai bach dros Brydain i gyd."
Dweud mae'r Llywodraeth nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ond am y tro, mae'n glir fod y sibrydion am y safle yn corddi'r dyfroedd unwaith eto.