Newyddion S4C

Trafodaethau pellach cyn penderfyniad ar werthu Plas Tan-y-Bwlch

11/09/2024

Trafodaethau pellach cyn penderfyniad ar werthu Plas Tan-y-Bwlch

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu cynnal trafodaethau pellach cyn penderfynu a ddylid gwerthu Plas Tan-y-Bwlch.

Roedd ymgyrchwyr wedi dweud y byddai yn "hurt" gwerthu yr adeilad ym Maentwrog, rhwng Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, sydd ar werth am £1.2 miliwn.

Cafodd ei hysbysebu ar y farchnad ar ddechrau mis Awst gan Awdurdod Parc Cenedlaethol ar ôl "cydnabod bellach nad yw yn ein gallu i ariannu’r ganolfan ein hunain."

Dywedodd yr Awdurdod ar y pryd eu bod yn "awyddus i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Plas ond rhaid cydnabod bellach nad yw yn ein gallu i ariannu’r ganolfan ein hunain.

"Mae hyn o ganlyniad i doriadau sylweddol iawn yn ein cyllidebau a gydag ychwanegiad chwyddiant nid yw’n gynaliadwy i’r busnes barhau ar y model presennol."

Mae angen tua £3 miliwn i ddod â'r adeilad i'r safonau cyfredol, ac mae angen gwaith atgyweirio helaeth i gynnal ei statws rhestredig Gradd II* medd yr Awdurdod. 

Mae costau rhedeg yr adeilad yn cyrraedd tua £250,000 y flwyddyn medd swyddogion.

Penderfynodd aelodau'r awdurdod ddydd Mercher i gynnal trafodaethau pellach cyn derbyn cynnig am y plas, ac oedi y penderfyniad i werthu nes mis Tachwedd.

Dywedodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd yr Awdurdod: "Mae hwn yn benderfyniad pwysig i’r Awdurdod. 

"Rydym wedi gwrando ar bryderon y cyhoedd a’n cymunedau, ac mae’n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser i gysidro dyfodol Plas Tan y Bwlch. Rydym wedi cytuno i ystyried pob opsiwn posibl ac i ymgysylltu gyda'r gymuned ac i weithio’n agos gyda darpar brynwyr i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer yr adeilad hanesyddol hwn."

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ailystyried y penderfyniad yn ystod cyfarfod yr Awdurdod ym mis Tachwedd. Yn y cyfamser, bydd trafodaethau gyda grwpiau cymunedol, cyrff cyhoeddus, a darpar brynwyr yn parhau.

'Brysiog'

Dywedodd Llinos Alun, sy'n rhan o grŵp Achub Plas Tan-y-Bwlch, wrth Newyddion S4C cyn y cyfarfod bod y penderfyniad i'w werthu wedi digwydd ar ormod o frys.

“I fi’n bersonol y pryder mawr ydy colli’r tŷ ond colli mynediad i’r goedlan a’r plas a Llyn Mair," meddai.

“Ma’ pobl yn mynd yna i gerdded, cael picnics a mwynhau’r lle. Ni’n colli cyfle os ydyn ni’n ei werthu i rywun a dos wbod lle de?

Ychwanegodd: “Y teimlad ydy bod nhw wedi rhoi’r plas ar werth yn rhy frysiog o lawar a heb roi cyfle i grwpiau cymunedol dod at ei gilydd. Ma’n hurt bod o’n cael ei werthu."

Yn wreiddiol roedd Plas Tan-y-Bwlch yn blasty gwledig. Yna cafodd ei drawsnewid yn ganolfan addysg gan gynnig amrywiaeth o gyrsiau preswyl.

Mae yna 27 o ystafelloedd yn yr adeilad a 10 o bobl yn gweithio ar y safle.

Image
Llinos Alun
Llinos Alun yw un o ymgyrchwyr Achub Plas Tan-y-Bwlch

'Bradychu'

Mae gan Llinos Alun, sy'n byw ym mhentref Gellilydan gysylltiad personol â Llyn Mair, sy'n rhan o'r safle 103 erw.

Ger y llyn mae llwch ei mam wedi ei wasgaru ac mae'n rhan o glwb rhedeg sydd yn defnyddio'r llwybrau ger y llyn yn aml.

Ar hyn o bryd, mae mynediad "caniataol" i'r cyhoedd i lwybrau o amgylch Llyn Mair, sydd yn agos i'r plas.

Pe bai'r adeilad yn cael ei werthu i gwmni preifat, mae pryder bydd mynediad i'r llwybrau hyn yn cael ei golli.

“Dwi’n teimlo 'tha bod ni wedi cael ein bradychu," meddai Llinos.

“Dwi’n siarad efo pobl yn ddyddiol oedd ddim yn sylweddoli bod Llyn Mair a’r goedwig ar werth hefyd. Ma’ dysgu bod mwy iddi yn dychryn pobl.

“Dim jyst fi sydd efo cysylltiad personol, ma' meinciau coffa yng ngerddi’r plas a wrth y llyn. Ma’ ymwelwyr a phobl leol yn defnyddio’r lle. Ma’n adnodd i bobl ac mae bobl o drên Ffestiniog yn ei ddefnyddio hefyd."

Cyfarfod

Yn ôl cofnodion agenda y cyfarfod ddydd Mercher, byddai cael gwared â'r plas yn golygu arbedion o £240,000 i'r gyllideb sylfaenol.

Mae Llinos Alun eisiau i aelodau'r Awdurdod wybod bod gan aelodau cymunedau lleol deimladau cryfion dros ei werthu i gwmni preifat.

“Dwi jest isio i’r aelodau ddallt y teimlad cry’ am beth sydd wedi digwydd a’r diffyg trafod a diffyg rhannu gwybodaeth. 

“Mwy na dim byd dwi isho atal gwerthu preifat a ‘da ni’n teimlo bod gan yr awdurdod dim hawl i fynd ymlaen gyda gwerthiant preifat pan ‘da nhw heb ymgynghori gyda’r cymunedau lleol. 

“ ’Da ni’n derbyn bod nhw’n wynebu heriau ariannol ond mae gwneud hyn yn annheg ofnadwy.”

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts, a'r Aelod o'r Senedd o Blaid Cymru Mabon ap Gwynfor yn cefnogi'r alwad i oedi gwerthu’r adeilad a’r tir er mwyn caniatáu trafodaethau gyda grwpiau lleol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.