Newyddion S4C

Anhrefn Trelái: 31 o bobl yn cael gorchymyn i ymddangos yn y llys

10/09/2024

Anhrefn Trelái: 31 o bobl yn cael gorchymyn i ymddangos yn y llys

Mae 31 o bobl wedi cael gorchymyn i ymddangos yn y llys wedi iddynt gael eu cyhuddo o droseddau mewn cysylltiad ag anhrefn yn ardal Trelái yng Nghaerdydd ym mis Mai y llynedd.

Dywedodd Heddlu De Cymru y bydd 20 o oedolion a saith o bobl ifanc yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau, 19 Medi a dydd Gwener, 20 Medi wedi’u cyhuddo o derfysg.

Fe welodd ardal Trelái anhrefn sylweddol ar ddydd Llun, Mai 22, 2023 yn dilyn marwolaethau dau fachgen ifanc, Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, mewn gwrthdrawiad.

Mae pedwar unigolyn arall, tri oedolyn ac un dyn ifanc, yn wynebu cyhuddiadau o naill ai difrod troseddol neu fygwth achosi difrod troseddol a byddant hefyd yn ymddangos yn y llys ar yr un dyddiadau.

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Danny Richards o Heddlu De Cymru: “Yn ystod yr anhrefn fe roddwyd sawl cerbyd ar dân, difrodwyd eiddo, anafwyd swyddogion heddlu, ac roedd trigolion yn eu cartrefi mewn ofn.

“Yn dilyn ymchwiliad trylwyr dan arweiniad ditectifs o’r Tîm Ymchwilio Troseddau Mawr, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi cyhuddiadau o derfysg, difrod troseddol a bygwth achosi difrod troseddol.

“Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan y gymuned trwy gydol ein hymchwiliad ac rydym yn awr yn aros am ganlyniad proses y llys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.