Cynnydd mewn camddefnydd o feysydd carafanau yn y gogledd gan 'droseddwyr peryglus'
Mae cynnydd mewn achosion o “droseddwyr peryglus” sydd yn camddefnyddio meysydd carafanau yng ngogledd Cymru i guddio cyffuriau, arfau ac arian, yn ôl Crimestoppers.
Mae’r sefydliad yn dweud fod troseddwyr yn llogi carafanau a chabannau mewn cyrchfannau gwyliau er mwyn cadw deunydd anghyfreithlon.
Yn ôl swyddogion, mae troseddwyr yn targedu’r ardaloedd gwledig hyn am eu bod yn gwybod fod llai o blismyn yn y cyffiniau, a niferoedd uchel o ymwelwyr, a bod modd iddyn nhw felly guddio eu gweithgareddau.
Mae Crimestoppers wedi lansio ymgyrch sydd yn annog pobl i gofnodi eu hamheuon am gamddefnydd parciau carafanau, a’u hadrodd iddyn nhw yn ddienw.
Fe allai hynny gynnwys:
- Cerbydau sydd yn cyrraedd a gadael yn ystod oriau anarferol
- Carafanau neu gabannau sydd â niferoedd uchel o ymwelwyr am gyfnodau byr
- Meintiau sylweddol o arian parod neu eitemau gwerthfawr eraill yn cael eu symud o gwmpas
Dywedodd Hayley Fry, Rheolwr Cenedlaethol Crimestoppers ar gyfer Gymru fod y camddefnydd yn “bygwth diogelwch a lles cymunedau lleol a’r teuluoedd sydd yn ymweld â’r ardal i chwilio am wyliau tawel a diogel.”
“Mae troseddwyr peryglus yn gobeithio cuddio gan gymryd mantais o’r distawrwydd a heddwch y mae parciau gwyliau yng Ngogledd Cymru yn eu cynnig”
Ychwanegodd: “Rydyn ni’n gwybod bod rhai troseddwyr yn gallu dychryn pobl. Peidiwch â gadael i ofn eich atal. Trwy gydweithio a siarad am yr hyn rydych chi’n ei weld, gallwn ni i gyd fod yn llygaid ac yn glustiau yn y mannau mwy ynysig hyn
“Os ydych chi'n clywed unrhyw beth neu'n gwybod unrhyw beth am droseddwyr yn defnyddio parciau gwyliau ar gyfer cyffuriau, arfau a gweithgareddau eraill, rhowch wybod i ni."
Llun: Wochit/Getty