Newyddion S4C

Codiad cyflog i weithwyr sector cyhoeddus Cymru

10/09/2024

Codiad cyflog i weithwyr sector cyhoeddus Cymru

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo codiadau cyflog i weithwyr yn y sector cyhoeddus.

Dywedodd Eluned Morgan y bydd cyflogau athrawon, staff y Gwasanaeth Iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yn cynyddu rhwng 5% a 6% yn 2024-25.

Daw'r cyhoeddiad wedi i Lywodraeth Cymru dderbyn yr argymhellion cyflog gan gyrff adolygu cyflogau annibynnol yn llawn.

Fe wnaeth Llywodraeth San Steffan gyhoeddi codiadau cyflog i weithwyr yn Lloegr fis yn ôl, ac mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru'n dilyn yr un trywydd, gyda'r cynnig yn uwch na chwyddiant.

Mae cyflogau wedi bod yn gostwng dros gyfnod o 14 o flynyddoedd mewn termau real, gyda chyflogau'r sector cyhoeddus yn gostwng 3.6% ar gyfartaledd.

Roedd undebau wedi rhybuddio y gallai anwybyddu argymhellion y cyrff adolygu cyflogau arwain at weithredu diwydiannol.

Fel rhan o'r cynlluniau yng Nghymru, bydd athrawon a staff y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn codiad cyflog o 5.5%.

Bydd meddygon a deintyddion, gan gynnwys meddygon teulu, yn derbyn codiad cyflog o 6%, gyda £1,000 ychwanegol ar gyfer meddygon iau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno ar godiad cyflog o 5% ar gyfartaledd i weision sifil ac i staff mewn nifer o gyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Banc Datblygu Cymru. 

'Gwaith hanfodol'

Wrth gyhoeddi'r cynlluniau ddydd Mawrth, dywedodd Ms Morgan: "Mae pobl ledled Cymru wedi dweud wrthon ni dros yr haf mai gweithwyr y sector cyhoeddus yw asgwrn cefn y gwasanaethau ry'n ni gyd yn dibynnu arnyn nhw – o'r nyrsys yn ein Gwasanaeth Iechyd i athrawon mewn ystafelloedd dosbarth.

"Maen nhw eisiau iddyn nhw gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith hanfodol. Mae'r dyfarniadau cyflog hyn yn arwydd o'n gwerthfawrogiad a'n parch tuag at eu gwaith caled."

Ychwanegodd: "Ond mae'r cyhoedd hefyd wedi pwysleisio eu bod eisiau i wasanaethau cyhoeddus wella – yn enwedig yn y Gwasanaeth Iechyd ac addysg. 

"Byddwn ni'n gweithio gyda'r gwasanaethau hyn i weithredu ar yr hyn ddywedodd pobl wrthon ni yn yr ymarfer gwrando dros yr haf."

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am godiadau cyflog, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg, Heledd Fychan AS: "Rydym yn glir na ddylai gweithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru orfod aros am gyhoeddiadau yn Lloegr cyn derbyn cynigion cyflog gwell. Dyna pam mae angen model cyllido teg arnom ar frys i roi’r diwedd i ddibyniaeth Cymru ar benderfyniadau gwleidyddol a wneir dros y ffin.

"Fodd bynnag, mae gweithwyr y sector cyhoeddus wedi datgan ers tro bod yr heriau sy'n wynebu’r gweithlu ar draws y gwasanaeth iechyd a'r sector addysg yn mynd y tu hwnt i dâl yn unig. 

"Os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a chadw ar draws y sector cyhoeddus, rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru wrando ar y sectorau hyn a gweithio gyda nhw ar frys i wella telerau ac amodau gweithwyr yn gyffredinol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.