Newyddion S4C

Miloedd o garcharorion i gael eu rhyddhau yn gynnar

10/09/2024
Carchar

Bydd miloedd o garcharorion yn cael eu rhyddhau yn gynnar yng Nghymru a Lloegr.

Mae disgwyl i tua 1,700 o garcharorion gael eu rhyddhau ddydd Mawrth mewn ymgais i ddelio â gorlenwi carchardai, yn ogystal â'r 1,000 sy'n cael eu rhyddhau yn arferol bob wythnos.

Dywedodd Downing Street fod y polisi wedi cael ei gyflwyno i "atal troseddu sydd ddim wedi cael ei brofi yn llwyr", pan nad oes modd i'r heddlu a'r llysoedd anfon pobl i'r carchar am nad oes digon o le yno. 

Ychwanegodd corff gwarchod y carchardai nad oedd gan y llywodraeth "unrhyw ddewis ond i wneud rhywbeth" am orlenwi.

Yn ôl prif arolygydd y carchardai Charlie Taylor: "Mae'n anochel y bydd rhai o'r carcharorion hyn yn cael eu galw yn ôl i'r ddalfa ac mae hefyd yn anochel y bydd rhai ohonynt yn ddigartref.

"Os ydy pobl yn cael eu rhyddhau heb gael eu paratoi yn iawn, ac yn ddigartref, yna beth fyddwn ni'n gweld ydy'r perygl y byddant yn aildroseddu neu yn torri eu hamodau mechnïaeth, gan orfod mynd yn ôl i'r carchar."

Daw sylwadau Mr Taylor wrth i'w adroddiad blynyddol gael ei gyhoeddi, sy'n dweud fod disgwyl i nifer y carcharorion gynyddu i tua 27,000 erbyn 2028. Mae hynny yn golygu ei fod yn annhebygol o fod yn bosibl sicrhau digon o le yn y carchardai. 

Daeth i'r amlwg ddydd Llun nad oedd rhai dioddefwyr yn ymwybodol y byddai'r person oedd yn gyfrifol am y drosedd yn eu herbyn yn cael ei ryddhau yn gynnar. 

Dywedodd y Comisiynydd Dioddefwyr y Farwnes Newlove fod hyn yn "boenus iawn i nifer o ddioddefwyr sy'n disgwyl y bydd y troseddwyr yn gorfod cwblhau'r ddedfryd y maent wedi derbyn gan y llys."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.