Penaethiaid y BBC i gael eu holi am sgandal Huw Edwards
Fe fydd penaethiaid y BBC yn cael eu cwestiynu yn y Senedd yn San Steffan ddydd Mawrth am sgandal Huw Edwards a dyfodol y gorfforaeth.
Bydd y cyfarwyddwr cyffredinol, Tim Davie, a'r cadeirydd, Samir Shah, yn cael eu holi gan Bwyllgor Cyfathrebu a Digidol Tŷ'r Arglwyddi ar eu strategaeth ar gyfer y dyfodol.
Mae disgwyl i'r sesiwn ddechrau gydag achos Huw Edwards. Mae'r gorfforaeth wedi cyfaddef ei bod wedi cael gwybod bod y cyn-gyflwynydd wedi cael ei arestio ym mis Tachwedd ond gan barhau i'w gyflogi am bum mis tan iddo adael ar sail cyngor meddygol.
Plediodd Mr Edwards, 63, yn euog ym mis Gorffennaf i gyhuddiadau o gael lluniau anweddus o blant, gyda saith o'r 41 o'r math mwyaf difrifol.
Daw hyn wedi i'r BBC ysgrifennu at Huw Edwards yn gofyn iddo ddychwelyd dros £200,000 a dalwyd iddo ar ôl cael ei arestio am fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Yn y sesiwn holi, fe fydd penaethiaid yn wynebu cwestiynau ar "ymdriniaeth y gorfforaeth wrth ddelio â honiadau o gamymddwyn gan gyflwynwyr adnabyddus ac effaith hyn ar hyder y rhai sy'n talu'r ffi drwydded."
Bydd cynlluniau'r darlledwr ar gyfer darnau o ffilmiau archif sy'n cynnwys Mr Edwards hefyd yn cael eu trafod.
Yn ddiweddarach, fe fydd y sesiwn yn trafod adroddiad yr Arglwyddi yn 2022 yn ymwneud â chyllid y BBC ar gyfer y dyfodol.
Bydd penaethiaid yn trafod y ffi drwydded yn ogystal â sut maent yn bwriadu "gwella eu cynnig i gynulleidfaoedd sy'n gadael y darlledwr, gan gynnwys gwylwyr dosbarth gweithiol."