'Gwendidau' gan yr Awdurdodau Tân ac Achub medd adroddiad
Mae angen i Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Tân ac Achub i fynd i'r afael â gwendidau model llywodraethu'r gwasanaeth tân, meddai adroddiad newydd.
Mae'r adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton yn canolbwyntio ar drefniadau llywodraethu'r tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru – Gogledd Cymru, De Cymru, a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.
Yn ôl yr adroddiad, nid yw'r model llywodraethu cyfredol yn sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am eu rhedeg yn "adlewyrchu natur arbenigol eu gwaith".
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn "edrych ar gynigion i ddiwygio a chryfhau" y trefniadau sydd yn bodoli.
Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gyfrifol am ddarparu ystod o wasanaethau gan gynnwys: hyrwyddo diogelwch tân; diffodd tanau; ymateb i ddamweiniau traffig ar y ffordd; ac ymdrin ag achosion brys eraill.
Ar hyn o bryd, mae holl aelodau'r awdurdodau yn gynghorwyr sydd wedi’u henwebu gan eu hawdurdod cartref.
Ond mae'r archwilydd yn bryderus nad oes gan yr aelodau hyn y sgiliau a’r wybodaeth sy’n "adlewyrchu natur arbenigol y sector".
Yn ôl yr adroddiad, mae cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer aelodau'r awdurdodau yn "gyfyngedig".
Nid ydyn nhw chwaith yn dangos "tystiolaeth ymarferol" eu bod yn deall eu swyddi a'u cyfrifoldebau, meddai.
'Pwysig'
Dywedodd Mr Crompton: "Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn darparu gwasanaethau hanfodol ac mae’n bwysig eu bod yn cael eu llywodraethu mewn modd sy’n adlewyrchu’r cyhoedd a’r amgylchedd y maent yn eu gwasanaethu.
"Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Tân ac Achub i gryfhau eu trefniadau llywodraethu a mynd i’r afael â’r gwendidau sydd wedi eu hamlygu yn fy adroddiad.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol. Rydym ni'n edrych ar gynigion i ddiwygio a chryfhau trefniadau presennol i fynd i'r afael â'r problemau llywodraethiant a diwylliant yn y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru."
'Cryfhau'r trefniadau llywodraethu'
Dywedodd y Cynghorydd Gwynfor Thomas, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cydnabod yr argymhellion a amlinellir yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.
"Byddwn nawr yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a’r Awdurdodau Tân ac Achub eraill yng Nghymru i archwilio’r camau nesaf er mwyn cryfhau’r trefniadau llywodraethu o'r Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru.”
Dywedodd Dylan Rees, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae Awdurdodau Tân ac Achub wedi dangos y gallu i amrywio eu trefniadau llywodraethu i ystyried materion penodol.
"Mae enghreifftiau'n cynnwys y gweithgorau a sefydlwyd yn yr Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i adolygu'r ddarpariaeth frys, a'r defnydd o weithgorau craffu cyllideb neu weithgorau tebyg ar draws pob Awdurdod Tân ac Achub."