Newyddion S4C

Swyddog o Heddlu Gwent yn euog o gam-drin merch yn rhywiol

ITV Cymru 09/09/2024
John Stringer

Mae swyddog Heddlu Gwent wedi ei gael yn euog o bum cyhuddiad yn ymwneud â cham-drin plentyn yn rhywiol. 

Roedd John Stringer, 42, o Gaerdydd, wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn. 

Wedi diwrnod o ystyried y dystiolaeth, dychwelodd y rheithgor euogfarn ar gyfer pob cyhuddiad yn ei erbyn yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun. 

Fe gafodd y rheithgor Stringer yn euog o ddau gyhuddiad o gam-drin rhywiol drwy gyffwrdd ac un cyhuddiad o achosi neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol. 

Fe gafwyd Stringer hefyd yn euog o gyhuddiad pellach o achosi neu gymell plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol ac un cyhuddiad o achosi plentyn i wylio gweithred rywiol.

Diolchodd y Barnwr Daniel Williams i’r rheithgor o naw dyn a thair dynes, ac mae Stringer wedi cael ei gadw yn y ddalfa i gael ei ddedfrydu fis nesaf. 

Mae’r cwnstabl wedi ei wahradd o’i ddyletswyddau gyda Heddlu Gwent ar hyn o bryd. 

Roedd yr achos, a barodd wythnos, yn canolbwyntio ar dystiolaeth dioddefwr benywaidd ifanc, a oedd o dan 13 oed adeg y troseddau.

Dywedodd y dioddefwr - na ellir ei henwi oa chos ei hoedran - wrth yr heddlu fod Mr Stringer wedi rhoi blanced drosti tra’r oedd hi’n chwarae gemau fideo cyn cyffwrdd â hi'n amhriodol.

Dywedodd hefyd wrth swyddogion sut, ar achlysur arall, roedd y diffynnydd wedi dangos fideo iddi o fenyw hŷn yn cyflawni gweithred rywiol, cyn dweud wrthi am actio'r hyn a welodd.

Aeth ymlaen i ddisgrifio sut oedd Stringer wedi gofyn iddi beth oedd hi wedi’i ddysgu mewn dosbarthiadau Addysg Rhyw a Pherthnasoedd, ac mai “ei bai hi” fyddai pe bai ei rhieni’n cael gwybod beth oedd wedi digwydd ac y byddai'n mynd i drafferth.

Roedd ei ymddygiad yn gwneud iddi deimlo’n “anghyfforddus iawn”, meddai wrth swyddogion.

Clywodd y llys fod yr honiadau’n ymwneud â’r cyfnod rhwng Rhagfyr 2019 a Gorffennaf 2021.

Dangoswyd fideo i'r llys o'r ferch yn cael ei chroesholi. Yn y fideo dywedodd ei bod yn “sicr” bod y cyffwrdd wedi digwydd.

Clywodd y rheithgor hefyd fod nifer o archwiliadau dros y we wedi eu darganfod ar ffôn John Stringer, gan gynnwys sawl un yn ymwneud â gweithred rywiol benodol ac yn cynnwys y geiriau ‘young’ a ‘voyeur’.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mr Stringer ei fod yn “hollol ddigalon” o gael ei arestio, ar ôl i’r ferch ddweud wrth Gynorthwyydd Dysgu yn ei hysgol am yr honiadau.

Cyfaddefodd yr heddwas fod y plentyn yn ymwelydd cyson â’i gartref dros y cyfnod dan sylw, ond dywedodd nad oedd erioed wedi bod gyda hi ar ei ben ei hun.

Cyfaddefodd iddo wneud cannoedd o archwiliadau ar y we am bornograffi, ond gwadodd fod ganddo ddiddordeb mewn merched ifanc.

Roedd Stringer yn ymddangos yn ddagreuol yn y doc wrth i’r barnwr ddweud y byddai'n cael ei anfon i'r carchar pan fydd yn cael ei ddedfrydu fis nesaf.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.