Newyddion S4C

Lucy Letby: Dechrau Ymchwiliad i 'geisio atebion i ddioddefwyr'

10/09/2024
Lucy letby

Fe fydd Ymchwiliad Thirlwall yn dechrau yn Lerpwl ddydd Mawrth er mwyn ceisio dod o hyd i atebion i deuluoedd y babanod gafodd eu llofruddio gan y gyn-nyrs Lucy Letby.

Fe gafwyd Letby yn euog o lofruddio saith o fabanod ac o geisio llofruddio saith arall, yn dilyn dau achos llys.

Roedd pump o'r babanod yn dod o Gymru.

Roedd yn gweithio ar uned babanod newydd-anedig Ysbyty Countess of Chester rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016 pan ddigwyddodd y llofruddiaethau.

Dywedodd y Fonesig Ustus Thirlwall, sydd yn cadeirio'r Ymchwiliad, y bydd yn digwydd mewn tair rhan: 

  • Rhan A am brofiad rhieni'r babanod yn yr ysbyty; 
  • Rhan B yn ystyried ymddygiad pobl a oedd yn gweithio yn yr ysbyty a sut y llwyddodd Letby i ladd a niweidio babanod dro ar ôl tro; 
  • Rhan C yn edrych ar y GIG ehangach, gan archwilio'r diwylliant yn ysbytai'r DU.

Derbyniodd Letby 15 dedfryd oes yn y carchar – sy’n golygu mai hi’r yw’r bedwaredd fenyw yn hanes cyfreithiol y DU i gael gwybod na fydd hi fyth yn cael ei rhyddhau o’r carchar.

Collodd Letby ei chais yn y Llys Apêl i herio ei dedfrydau ym mis Mai eleni.

Prif amcanion yr Ymchwiliad yw ceisio atebion i deuluoedd y dioddefwyr a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu. 

Bydd yr Ymchwiliad hefyd yn archwilio'r amgylchiadau ehangach, gan gynnwys ymateb ac ymddygiad y GIG, ei staff a'i reoleiddwyr.

Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan yn ystod yr Ymchwiliad fydd teuluoedd y plant, Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Countess of Chester, cyn brif weithredwr yr ysbyty Tony Chambers, y cyn gyfarwyddwr meddygol Ian Harvey, y cyn gyfarwyddwr nyrsio Alison Kelly a'r cyn gyfarwyddwr Adnoddau Dynol Susan Hodkinson. 

Cafodd yr ymchwiliad, nad oedd â phwerau statudol llawn i ddechrau, ei uwchraddio i gael mwy o bwerau i orfodi tystion i roi tystiolaeth.

Mae disgwyl y bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr Ymchwiliad.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.