Cytundeb £500m ar gyfer Tata Steel ym Mhort Talbot 'ar fin cael ei gwblhau'
Mae Llywodraeth y DU ar fin cwblhau cytundeb gwerth £500 miliwn ar gyfer gwaith dur Tata Steel ym Mhort Talbot, yn ôl adroddiadau.
Roedd y pecyn cymorth eisoes wedi cael ei gynllunio gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol.
Ei fwriad oedd i gynnig cymorth i Tata gyda'u cynlluniau i symud i ddulliau cynhyrchu mwy gwyrdd, ac adeiladu ffwrnais drydan newydd ar y safle.
Y gred yw y bydd 2,800 o swyddi yn cael eu colli o ganlyniad i gau y ddwy ffwrnais yn ne Cymru. Fe gafodd y ffwrnais gyntaf ei chau ym mis Gorffennaf.
Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Busnes Jonathan Reynolds wneud datganiad am y cytundeb yn y Senedd yn San Steffan ddydd Mercher, yn ôl adroddiadau.
Y gred yw y bydd yn eithaf tebyg i'r un a gafodd ei addo gan y llywodraeth flaenorol.
Mae Mr Reynolds wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn credu fod yna "gytundeb gwell ar gael" i Bort Talbot a'r diwydiant dur yn gyffredinol, wrth iddo gadarnhau fod trafodaethau yn parhau gyda Tata o dan y Llywodraeth Lafur newydd.
Ychwanegodd y byddai'n sicrhau bod "sicrwydd swyddi" yn rhan o'r trafodaethau.
Dyw Llywodraeth y DU ddim wedi gwneud sylw am yr adroddiadau y gallai'r cytundeb gael ei gyhoeddi yr wythnos hon.
Mae cwmni Tata Steel wedi cael cais am sylw.