
Cannoedd mewn rali ail gartrefi yn Nhryweryn ger y Bala
Cannoedd mewn rali ail gartrefi yn Nhryweryn ger y Bala
Mae cannoedd o bobl wedi ymgynnull mewn rali ar hyd argae Tryweryn ger y Bala yng Ngwynedd brynhawn dydd Sadwrn.
Bwriad y rali ydy i godi ymwybyddiaeth am yr hyn sydd yn cael ei ddisgrifio fel argyfwng mewn cymunedau Cymraeg, wrth i bobl leol fethu cystadlu yn y farchnad dai.
Mae'r rali wedi ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith, ac mae'r trefnwyr yn credu fod hyd at 1,000 o bobl wedi ymgynnull gyda'i gilydd yn y digwyddiad.
Cafodd y rali ei threfnu gan gydymffurfio gyda rheolau Covid-19, ac mae ymgyrchwyr yn bwriadu cario baneri gydag enwau cymunedau lleol ledled Cymru fel rhan o'r digwyddiad.
Cyn y rali, dywedodd Osian Jones, llefarydd ar ran ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’: "Mae'n achosi gwahanol fathau o broblemau mewn gwahanol ardaloedd, ond yr un yw'r canlyniad: fod pobl ifanc yn methu cael hyd i gartrefi yn eu cymunedau eu hunain.
“Bydd y bobl sy'n bresennol yn Rali Tryweryn yn llofnodi datganiad enfawr yn galw ar y llywodraeth newydd i basio Deddf Eiddo fel mater o frys i amddiffyn ein cymunedau.
“Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi enwau rhagor o bobl fydd yn cymryd rhan yn y rali, ac enwau pobl amlwg a fydd yn llofnodi'r alwad ar y llywodraeth newydd.
“Rydyn ni'n gohirio cynnal y rali tan ganol yr haf er mwyn sicrhau'r cyfle gorau y byddwn yn gallu cynnal rali fawr i anfon neges glir i'r llywodraeth newydd, wrth barchu gofynion iechyd o ran cadw pellter cymdeithasol.”

Ychwanegodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol: "Os byddwn yn parhau i oedi, ni fydd y Gymraeg yn parhau fel iaith gymunedol. Wedi degawdau o drafod, daeth amser gweithredu.
“Yn ogystal, fel rhan o’n gweledigaeth ‘Mwy Na Miliwn - Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’, rydyn ni’n galw ar lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno pecyn o fesurau er mwyn trawsnewid y farchnad dai, megis trethi ar dwristiaeth, elw landlordiaid ac ail dai.
“Dylai ein gwleidyddion fod yn gweithio er budd pobl gyffredin a’n cymunedau, yn hytrach nag er budd y cyfoethog.”
Prif lun: Cymdeithas yr Iaith
Fideo: Gwenan Mair Griffiths