Prynu tŷ cyntaf yn y brifddinas yn 'anodd iawn' medd myfyriwr
Prynu tŷ cyntaf yn y brifddinas yn 'anodd iawn' medd myfyriwr
Boed i goleg neu waith.
Mae'r brifddinas wedi denu pobl i ail-leoli ers blynyddoedd.
Yn ôl arolwg newydd, Caerdydd ydy'r lle mwyaf poblogaidd i bobl brynu eu tŷ cyntaf yng Nghymru.
Mae 59% o dai gafodd eu prynu yma yn y brifddinas y llynedd yn rhai gafodd eu prynu gan brynwyr tro cynta.
Mae hynny'n dod am bris.
Dros £225,000 ar gyfartaledd.
Parhau i gynyddu mae prisiau tai ar draws Cymru hefyd a bellach 5.5% yn uwch na'r un adeg llynedd.
"Be 'dan ni di gweld ydy sefydlogi o ran y diddordeb yn yr eiddo.
"Mae costau neu brisiau yn dal i godi ac mae hwnna yn adlewyrchu'r diffyg cyflenwad sydd 'na yng Nghymru a drwyddi draw yn y Deyrnas Gyfunol."
Breuddwyd ydy cael tŷ i nifer o bobl ifanc ond pam fod Caerdydd yn apelio cymaint i rai sy'n trio cael tŷ am y tro cyntaf?
"Mae nifer o ffactorau.
"Mae 'na ddigon o swyddi a chyfleoedd i bobl ac hefyd yn gallu cynnig yr elfen gymdeithasol mae pobl ifanc yn ei dymuno."
Ond i Gareth Jones sydd yn ei drydedd flwyddyn mae prynu tŷ yn teimlo'n bell o'i afael.
"Mae'n cael tipyn o effaith yn ariannol gyda phrisiau bwyd a chostau byw yn mynd lan.
"Ni'n gweld ym mis Hydref bydd prisiau trydan yn mynd lan eto.
"Bydd yn anodd.
"Falle bydd rhaid rhentu am lot fwy o flynyddoedd sy ddim yn ideal chwaith achos chi moyn mynd ar y property ladder mor gynnar â phosib.
"Mae'n mynd i fod yn anodd iawn gyda fel mae prisiau tai yn mynd nawr."
I fyfyrwyr Caerdydd mae rhent blynyddol bellach dros £6,600.
"Mae hwn yn ffigwr sydd eto'n adio at y baich o ran pa mor ddrwg yw'r sefyllfa.
"Dydy o ddim byd newydd, mae pawb yn gwybod pa mor ddrwg ydy o.
"Mae gennym undebau ar draws Cymru sy'n rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr.
"Cefnogaeth o ran cyngor am bwy i fynd at os oes problemau sydd angen eu sortio ar frys."
I brynwyr tro cyntaf gall bod yn agored i ail-leoli arwain at opsiynau mwy fforddiadwy ond wrth i brisiau gynyddu a fydd apêl y brifddinas yn parhau i ddenu?