Gwrthod cais i adeiladu 18 o dai fforddiadwy ym Motwnnog
Mae cais cynllunio i adeiladu 18 o dai fforddiadwy ym mhentref Botwnnog ym Mhen Llŷn wedi cael ei wrthod, yn groes i argymhellion swyddogion.
Pleidleisiodd saith aelod o'r pwyllgor cynllunio o blaid ei wrthod, a chwe aelod o blaid ei ganiatáu.
Gan fod y penderfyniad yn groes i'r argymhelliad statudol, fe fydd nawr yn mynd i gyfnod cnoi cil, cyn y bydd yn dychwelyd o flaen aelodau am benderfyniad terfynol.
Roedd swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd wedi awgrymu wrth aelodau'r pwyllgor cynllunio y dylai'r cais gael ei ganiatáu a bod cyfrifoldeb statudol arnyn nhw i wneud hynny, gan fod yr egwyddor am yr angen wedi ei sefydlu'n flaenorol.
Roedd y safle wedi ei glustnodi ar gyfer 21 o dai, a gan fod y cais cynllunio ar gyfer llai na hynny ar y safle, nid oedd yn cael ei ystyried fel gor-ddatblygiad, meddai'r swyddogion.
'Niwed o sylwedd'
Mewn cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio ddydd Llun, clywodd aelodau y byddai modd gwrthod y cais dim ond os byddai'n achosi "niwed o sylwedd" i'r iaith Gymraeg neu'r gymuned - ac nid oedd cyfiawnhad i wrthod y cais gan nad oedd tystiolaeth o'r niwed sylweddol hwn yn bodoli.
Roedd cryn drafod yn ystod y cyfarfod am y diffiniad o gymuned leol - gan fod 'lleol' yn berthnasol i Wynedd gyfan wrth ystyried y galw am dai.
Roedd aelodau oedd yn gwrthwynebu'r cais yn dadlau y dylid diffinio lleol fel ardal oedd yn berthnasol i Fotwnnog yn unig.
Dywedodd yr ymgeisydd Robat Williams bod y cynllun yn cydymffurfio'n llwyr gyda'r Cynllun Datblygu Unedol, ac yn ateb y galw am dai fforddiadwy yn yr ardal.
Wrth siarad yn erbyn y datblygiad dywedodd y cynghorydd lleol Gareth Williams fod y cais wedi creu "drwgdeimlad a phoeni" ym Motwnnog, a bod teimladau cryf yn ei erbyn yn lleol.
Ychwanegodd mai pobl ifanc yn allfudo o'r fro oedd y gwir argyfwng tai, yn hytrach na "gor-ddatblygu".
Dywedodd bod 70 o dai o fewn Botwnnog, a byddai caniatáu adeiladu'r tai newydd yn gynnydd o 25% ym maint y pentref.
"Gwnewch beth sydd yn iawn - ewch yn erbyn yr argymhelliad a pheidiwch â gadael iddynt ddifetha pentref Botwnnog," meddai wrth aelodau'r pwyllgor.
Roedd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones o'r farn mai gwaith aelodau'r pwyllgor oedd cydymffurfio gyda'r polisïau cynllunio cyfredol - a bod y ffeithiau'n dangos bod pobl yn aros am dai yn lleol.
Ychwanegodd y byddai'n cefnogi'r cais gan y byddai'r penderfyniad yn colli mewn unrhyw gamau apêl.
Ateb y galw
Roedd Cyngor Cymuned Botwnnog wedi gwrthwynebu'r cais i adeiladu'r datblygiad ger tir Cae Capel yn y pentref yn gryf, gan ddadlau nad oedd galw amdano'n lleol, ac y byddai'n effeithio ar "sefydlogrwydd y gymuned."
Roedd aelodau'r cyngor cymuned wedi awgrymu y dylai'r tai gael eu cynnig i siaradwyr Cymraeg wrth ymateb i'r cais, gan ddatgan:
"Dywed yr ymgeisydd y byddai’r tai arfaethedig ar gyfer pobl leol, a chan hynny, mai’r tebyg yw y bydd y preswylwyr yn siaradwyr Cymraeg.
"Nid yw hynny’n dilyn, gwaetha’r modd. Gwyddom fod galw mawr yn yr ardal am ail gartrefi a lletyau tymor byr, a bod grym y fasnch ymwelwyr wedi arwain at fewnlifiad di-Gymraeg sylweddol i’r fro ers degawdau."
Ychwanegodd datganiad y cyngor cymuned: "Da o beth fyddai pe cyfyngid argaeledd y tai arfaethedig i siaradwyr Cymraeg yn unig, ond yn niffyg hynny, ni ellir profi na fyddai cyfran helaeth o’r tai hyn yn mynd yn aelwydydd di-Gymraeg, onid y cyfan ohonynt."