Newyddion S4C

O grefydd i gomedi: Offeiriad yn cyfnewid pregethau am sioe stand-yp

09/09/2024
Dr Manon James.png

Bydd offeiriad o ogledd Cymru yn cyfnewid pregethau am sioe stand-yp newydd mewn noson gomedi ddiwedd Medi. 

Bydd y Canon Dr Manon Ceridwen James, a gafodd ei magu yn Nefyn ym Mhen Llŷn ond sydd bellach yn byw yn Abergele, yn cymryd rhan yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Llanelwy ar 21 Medi.

Bydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal mewn amrywiaeth o dafarndai a lleoliadau eraill yn Llanelwy. 

Dywedodd Manon fod gwneud comedi stand-yp yn gwbl wahanol i'w swydd bob dydd fel Deon Hyfforddiant Cychwynnol i’r Weinidogaeth yn Athrofa Padarn Sant. 

Er y gwahaniaethau amlwg rhwng pregethu a pherfformio stand-yp, mae yna rai pethau sy'n debyg yn ôl Manon. 

"Yn y ddau rhaid i chi ddal sylw eich cynulleidfa a dim ond amser byr iawn sydd gennych i wneud hynny ac rwy'n defnyddio hiwmor yn fy nosbarthiadau hefyd," meddai. 

'Cyffrous iawn'

Dim ond tua wyth gig y mae Manon wedi ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n ddiolchgar iawn i'r gomedïwraig Kiri Pritchard-McLean am chwarae rhan allweddol ar ei thaith. 

Fe ddysgodd Manon nifer o sgiliau perfformio gwahanol pan y gwnaeth fynychu cwrs ysgol gomedi a gafodd ei sefydlu gan Kiri yn ystod y cyfnod clo i godi arian i elusen. 

Ychwanegodd Manon: "Mae'n beth eithaf mawr sefyll i fyny yno ar eich pen eich hun. Fel offeiriad, mae'n wahanol. Rwy'n cael fy amddiffyn yn rhannol gan y pulpud yn un peth, ac yn gyffredinol mae pobl yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan bregeth.

"Gyda stand-yp mae'n hollol wahanol, yn fwy agored. Ond mae fy nerfau i gyd yn bositif ac rwy'n gyffrous iawn am fod yn rhan o ŵyl mor boblogaidd."

Mae sioe stand-yp Manon yn seiliedig ar brofiadau o'i bywyd ei hun. 

"Does gen i ddim sgript bendant a dw i ddim yn dweud jôcs fel y cyfryw, ond rwy'n cysylltu'r hyn rwy'n gobeithio sy'n straeon difyr a myfyrdodau ar fywyd," meddai.



 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.