Newyddion S4C

Amheuon am gynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear newydd ar safle Wylfa ym Môn

09/09/2024
Wylfa

Mae cynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear newydd ar safle Wylfa ar Ynys Môn yn y fantol wrth i Ed Miliband geisio cyflymu'r broses o drawsnewid grid trydan Prydain yn un sero net. 

Mae'r Ysgrifennydd Ynni wedi dweud wrth swyddogion i adolygu cynlluniau niwclear y dyfodol, gan olygu fod cynlluniau ar gyfer Wylfa bellach yn ansicr. 

Fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ym mis Mai mai safle'r Wylfa ar Ynys Môn yw eu dewis cyntaf ar gyfer gorsaf niwclear newydd.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r Llywodraeth gyhoeddi ym mis Mawrth eu bod yn prynu tir safleoedd Wylfa ac Oldbury yn Sir Gaerloyw am £160m

Bydd yr adolygiad hefyd yn ail-ystyried y targed gwreiddiol a gyhoeddwyd gan Boris Johnson i ddefnyddio o leiaf 24 gigawat o gapasiti niwclear erbyn 2050 yn ôl adroddiadau. 

Y gred yw fod ffynhonellau yn Whitehall wedi pwysleisio nad oes yna unrhyw benderfyniadau terfynol wedi eu gwneud ac bod Mr Miliband yn parhau yn gefnogol iawn i ehangu capasiti niwclear Prydain. 

Adweithyddion bach

Byddai newidiadau i'r cynlluniau yn gallu cynnwys adeiladu nifer o adweithyddion modiwlar bach (SMR) yn Wylfa yn hytrach nag un orsaf bŵer fawr.

Mae cwmni Niwclear Prydain Fawr (GBN), yr asiantaeth sydd yn gyfrifol am baratoi safleoedd niwclear, yn cynnal yr adolygiad ar hyn o bryd ar gyfer Mr Miliband. 

Y gred yw eu bod nhw yn ffafrio adeiladu adweithyddion modiwlar bach yn y Wylfa oherwydd eu bod yn credu y gallant gael eu hadeiladu a'u gweithredu yn gynt. 

'Ansicrwydd parhaus'

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth aelod seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn, Llinos Medi, alw ar y llywodraeth i roi'r gorau i'r "ansicrwydd gwleidyddol parhaus ynghylch safle niwclear Wylfa.

"Mae safle Wylfa wedi bod yn gêm wleidyddol ers dros ddegawd. Yn ôl yn 2019 roeddem mor agos at y llinell derfyn, ond nid oedd gan y safle gefnogaeth wleidyddol gan y Llywodraeth ar y pryd. 

"Mae’r gymuned wedi bod yn dyst i wawr ffug Wylfa Newydd, ac mae ansicrwydd ynghylch safle o dan y Llywodraeth Lafur hon."

Ychwanegodd: “Nid yw pobl Ynys Môn eisiau mwy o ystyriaeth; maent eisiau ymrwymiad ac amserlenni clir. Anogaf y Llywodraeth i roi ateb syml i Ynys Môn am ddyfodol safle’r Wylfa, a llinell amser glir."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.