Newyddion S4C

Craig Bellamy: Cymru angen 'addasu' ar gyfer her Montenegro

09/09/2024

Craig Bellamy: Cymru angen 'addasu' ar gyfer her Montenegro

Mae rheolwr Cymru, Craig Bellamy, wedi dweud bydd rhaid i'w dîm "addasu" ar gyfer yr ornest yn erbyn Montenegro.

Bydd Cymru yn herio Montenegro yn Niksic nos Lun. Dyma'r ail gêm yn eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Dechreuodd cyfnod Bellamy wrth y llyw gyda pherfformiad addawol a gêm gyfartal yn erbyn Twrci yng Nghaerdydd nos Wener.

Wrth siarad yn Montenegro cyn y gêm nos Lun dywedodd Bellamy bydd Cymru yn gorfod "addasu" ar gyfer herio'r wlad yn nwyrain Ewrop.

"Gwrthwynebwyr gwahanol, bygythiad gwahanol, cryfderau gwahanol, gwendidau gwahanol, felly yn sicr byddwn yn addasu," meddai.

"Dwi wedi gwylio Montenegro llawer yn arwain at hon, eu gêm yn erbyn Gwlad yr Iâ, rydym yn gwybod yn union beth rydym ni eisiau gwneud.

"Os ydyn ni'n gallu adeilad ar y perfformiad yn erbyn Twrci a sut roeddem yn chwarae heb y bêl, mae angen i ni barhau gyda hynny.

"Gobeithio bydd hynny yn ein galluogi i gael effaith fawr ar y gêm."

Mae Cymru wedi chwarae yn erbyn Montenegro dair gwaith, yn 2009, 2010 a 2011.

Cymru enillodd y gêm fwyaf diweddar, ond eu gwrthwynebwyr nos Lun enillodd yn y ddau achlysur arall. 

Dim ond un o'i naw gêm ddiwethaf oddi cartref mae Cymru wedi ennill ac mae Montenegro wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf.

Fe allwch chi wylio Cymru yn herio Montenegro yn fyw ar sianel YouTube Sgorio am 19:45 nos Lun.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.