Newyddion S4C

‘Ymchwiliad brys’ i bryderon am gyn lawfeddyg yn Ysbyty Great Ormond Street

08/09/2024
Ysbyty Great Ormond Street

Mae Ysbyty Great Ormond Street yn cynnal ymchwiliad brys i bryderon am y driniaeth a dderbyniodd dros 700 o blant gan gyn lawfeddyg.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth bod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS) wedi cael cais i adolygu ei wasanaeth orthopedig pediatrig yn dilyn pryderon am Yaser Jabbar.

Mae’r corff wedi ymchwilio i 39 o’r 721 achosion yn ymwneud â triniaeth plant hyd yma, medda'r ysbyty wrth ymateb i ymchwiliad gan bapur newydd y Sunday Times.

Dywedodd yr ysbyty bod 15 o gleifion heb eu hanafu ar ôl derbyn triniaeth gan Mr Jabbar ond bod naw o blant wedi dioddef “niwed isel i gymedrol” a bod 13 o blant oedd wedi dioddef “niwed difrifol” – sy’n debygol o gynnwys anafiadau fydd yn para gweddill eu hoes, meddai’r ysbyty.

Mae disgwyl i'r adolygiad gymryd 18 mis i gwblhau a mae Great Ormond Street wedi cysylltu â phob un plentyn a’u teulu fel rhan ohono, medden nhw.

Roedd un o’r achosion dan sylw yn wneud â phlentyn oedd wedi cael llawdriniaeth i dynnu aelod o’i gorff (‘amputation’). Dywedodd panel yr RCS y gallai hynny wedi cael ei osgoi petai i’r plentyn wedi cael triniaeth oedd yn wahanol. 

Mae rhai plant hefyd yn byw gydag anghysondebau o ran hyd eu coesau wedi iddyn nhw gael eu trin gan Mr Jabber. Mi fydd angen iddyn nhw gael triniaeth feddygol bellach am flynyddoedd i ddod er mwyn gwella eu cyflwr. 

Nad yw Mr Jabbar bellach yn gweithio yn Ysbyty Great Ormond Street. Roedd yn cael ei adnabod fel arbenigwr yn ei faes, sef llawdriniaethau ar y breichiau a choesau.

Dyw’r cyn lawfeddyg ddim wedi cael trwydded i ymarfer meddygaeth yn y DU ers Ionawr 8, yn ôl gwefan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

'Ymddiheuro'n ddifuant'

Mae Ysbyty Great Ormond Street bellach yn wynebu sawl cais am iawndal. 

Dywedodd ymddiriedolaeth yr ysbyty eu bod nhw'n cymryd pryderon y RCS am waith Mr Jabber “o ddifrif,” ac fe fydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal gan arbenigwyr o ysbytai pediatrig eraill. 

Mae Caroline Murgatroyd yn gyfreithiwr sydd yn cynrychioli rhai o’r cyn cleifion dan sylw ar ran Hudgell Solicitors, ac mae wedi disgrifio canfyddiadau’r RCS fel rhai “pryderus iawn".

Dywedodd llefarydd ar ran Ysbyty Great Ormond Street eu bod yn “derbyn holl ganfyddiadau” yr RCS a’u bod yn “cymryd camau” yn unol â’u hargymhellion. 

“Rydym yn flin iawn am y pryder a’r ansicrwydd y gall yr adolygiad ei achosi," medden nhw.

“Rydym wedi cysylltu â’r holl gleifion a'r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio.

“Hoffwn ymddiheuro’n ddiffuant i bob un ohonyn nhw.”

Dywedodd Mr Jabbar wrth y Sunday Times y byddai yn ymateb i'r "awdurdodau perthnasol" pan oedden nhw'n cysylltu ag o ond nad oedd am ymateb i'w hymchwiliad nhw, meddai'r papur newydd.

Llun: Nigel Cox/Wikipedia
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.