Newyddion S4C

Disgwyl i Apple ddatgelu'r iPhone 16 gyda thechnoleg AI newydd

09/09/2024
Apple

Mae disgwyl i Apple ddatgelu'r iPhone 16 nos Lun, gan gynnwys technoleg AI newydd.

Bydd gwelliannau i dechnoleg Siri, creu delweddau a’r gallu i drawsgrifio llais i destun ymhlith y datblygiadau diweddaraf.

Ond mae ‘na gwestiynau ynglŷn â faint yn union o’r dechnoleg AI newydd, a enwir Apple Intelligence gan y cwmni, fydd ar gael wrth lansio'r ffôn yng ngwledydd Ewrop.

Daw'r oedi posib wedi i'r Undeb Ewropeaidd gyhoeddi rheolau newydd sydd yn dweud bod rhaid i declynnau a gwasanaethau brandiau Apple weithio’n well gyda rhai cwmnïoedd eraill.

Mae Apple eisoes wedi dweud y bydd cyfnod o oedi cyn cyflwyno rhai elfennau o’r dechnoleg AI newydd oherwydd pryderon ynghylch y “gallu i ryngweithredu" rhwng ffôn Apple a dyfeisiau a meddalwedd cwmnïoedd eraill.

Dywedodd Ben Wood, prif ddadansoddwr cwmni dadansoddi technoleg CCS Insight, y bydd yn rhaid i Apple “esbonio’n ofalus” pryd a ble y bydd ei wasanaethau AI newydd ar gael.

Dywedodd hefyd y gallai newidiadau i'r camera fod un o brif ddatblygiadau’r iPhone 16 wrth i Apple geisio achub y blaen ar gwmnïoedd eraill.

Daw’r iPhone diweddaraf wedi i Google a Samsung hefyd lansio cyfres o ffonau symudol sydd yn cynnwys technoleg AI newydd. 

Llun: Yui Mok/PA Wire
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.