Stephen Williams yw'r Cymro cyntaf i ennill y Tour of Britain ar ei newydd wedd
Mae Stephen Williams o Aberystwyth wedi ennill ras seiclo’r Tour of Britain ddydd Sul, gan olygu mai ef yw’r Cymro cyntaf i’w hennill ar ei newydd wedd.
Fe gafodd y Tour of Britain ei sefydlu adeg yr Ail Ryfel Byd gan ddod i ben yn 1999, cyn cael ei hadfywio yn 2004.
Daw buddugoliaeth Williams, sydd yn cynrychioli tîm Israel-Premier Tech, ddydd Sul wedi iddo ennill ail gymal y ras ddydd Mercher, yn ogystal â’r trydydd cymal ddydd Iau.
Roedd ganddo fantais o 16 eiliad cyn dechrau’r chweched cymal yn Suffolk, gan seiclo rhwng Lowestoft a Felixstowe.
Fe ddechreuodd y gystadleuaeth chwe ddiwrnod o hyd yn yr Alban ddydd Mawrth, gan deithio drwy Durham, Swydd Efrog, Swydd Derby, Swydd Nottingham a Swydd Northampton cyn dod i ben yn Suffolk.
Oscar Onley o'r Alban ddaeth yn ail ddydd Sul, a hynny 16 eiliad y tu ôl i Williams, ac fe ddaeth Tom Donnenwirth o Ffrainc yn drydydd.