Newyddion S4C

Dathlu 'perfformiadau arwrol' athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru

09/09/2024
Gemau Olympaidd/Paralympaidd

Fe fydd athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Cymru yn cael eu croesawu adref mewn digwyddiad yn y Senedd.

Fe ddaeth y Gemau Paralympaidd i ben ym Mharis ddydd Sul. 

Bydd rhai o sêr chwaraeon mwyaf adnabyddus yr haf yn bresennol yn y digwyddiad a fydd yn cael ei gynnal ar risiau Senedd Cymru ddydd Iau, 26 Medi. 

Roedd 33 o athletwyr Cymreig wedi cymryd rhan y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni. Dyma'r nifer fwyaf o athletwyr o Gymru i fod yn rhan o dîm Prydain a Gogledd Iwerddon. 

Roedd 22 o Gymru wedi cymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd, gan ennill cyfanswm o 16 o fedalau – sef dwy yn fwy na Gemau Tokyo yn 2020. 

Ac fe fydd 13 o fedalau o bob lliw hefyd yn dychwelyd i Gymru o’r Gemau Olympaidd, sef y nifer mwyaf o fedalau mae athletwyr yn y Gemau hynny wedi eu hennill erioed. 

Bydd Ruby Evans, y gymnastwraig Cymreig cyntaf i gystadlu yn y Gemau Olympaidd ers 1996, Matt Aldridge, a enillodd fedal efydd Olympaidd yn y gystadleuaeth rwyfo, a Sarah Jones, y chwaraewraig hoci o Gaerdydd ymhlith y sêr Olympaidd fydd yn bresennol. 

Bydd y seren Paralympaidd Matt Bush, a enillodd fedal aur yng nghystadleuaeth taekwondo K44 +80kg y dynion, a Paul Karabardak, enillydd medal efydd yng nghystadleuaeth dyblau tenis bwrdd MD14 y dynion, hefyd yn cymryd rhan.

Bydd Llywydd y Senedd, Elin Jones AS, a Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan, yn croesawu’r athletwyr adref. Yn ystod y digwyddiad bydd perfformiadau gan Academi Celfyddydau Perfformio Caerdydd a’r grŵp eclectig Wonderbrass.  

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei bod yn edrych ymlaen at groesawu’r athletwyr yn ôl i’w mamwlad am “deyrnged deilwng” yn dilyn eu “perfformiadau arwrol".

Mae’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i ymuno â’r dathliadau y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd o 17:30 ymlaen. Bydd athletwyr a hyfforddwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda'r cyflwynydd Jason Mohammad, cyn i’r digwyddiad ddod i ben gyda pherfformiad o’r anthem genedlaethol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.