Cyfanswm o 16 o fedalau i athletwyr Cymru wrth i’r Gemau Paralympaidd ddod i ben
Mae athletwyr Cymru wedi ennill cyfanswm o 16 o fedalau wrth i’r Gemau Paralympaidd ym Mharis ddod i ben ddydd Sul.
Mae'r casgliad yn cynnwys saith medal Aur, pum medal Arian, a phedair medal Efydd.
Mae hynny'n gynnydd ar Tokyo 2020, lle enillodd athletwyr Cymru bedair Aur, tair Arian, a saith Efydd - cyfanswm o 14 medal.
Enillodd Laura Sugar fedal Aur ar ddiwrnod olaf y gemau, gan amddiffyn ei theitl paralympaidd yn y Sbrint Canŵ KL3 200m.
Creodd Jodie Grinham o Aberteifi hanes trwy gipio aur mewn saethyddiaeth - y fenyw feichiog gyntaf i ennill medal Baralympaidd erioed.
Roedd llwyddiant hefyd i’r nofiwr Rhys Darbey o Gei Connah a enillodd aur yn ei gêm Paralympaidd gyntaf yn y ras gyfnewid gymysg 4x100m.
Roedd medalau aur hefyd i James Ball yn y felodrom, a Benjamin Pritchard ar y llyn rhwyfo.
Ychwanegodd y saethwr o Gymru, Sabrina Fortune, fedal aur arall a thorri ei record byd ei hun yn rownd derfynol F20 y merched.
Roedd llwyddiant hefyd i Matt Bush - gŵr 35 oed o Sanclêr – oedd yn bencampwr byd Para-taekwondo ddwywaith ond dyma ei fedal aur gyntaf yn y Gemau Paralympaidd.
'Ysbrydoledig'
Dywed Fiona Reid Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru bod y gemau wedi bod yn "anhygoel" i Gymru.
“Rydyn ni wedi cael rhai dyddiau lle mae’n ymddangos bod nifer y medalau yn mynd i fyny ac i fyny ac i fyny,” meddai.
"Mae angen ymrwymiad anhygoel i fod yn athletwr. Rydym yn hynod o falch o bawb.”
Dywedodd ei bod hi'n bwysig cofio nad yw chwaraeon anabledd ar gyfer y lefel uchaf, a'u bod yn digwydd trwy gydol y flwyddyn.
"Er ein bod yn falch iawn o'n sêr Paralympiaid ac unrhyw un sy'n cystadlu ar y lefel uchaf, rydym hefyd yn falch iawn o unrhyw un sy'n cymryd rhan,” meddai.
“Mae'r gemau paralympaidd yn hynod ysbrydoledig ac yn dangos i bawb beth sy’n bosib, ond nid yw hynny'n wir. Does dim rhaid i bawb gyrraedd y lefel yna.
“Ein rôl ni yw gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod bod dewis, i sicrhau bod yna gyfleoedd da iawn trwy gydol y flwyddyn i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon.
"Rydym yn gyffrous iawn am yr hyn sydd i ddod yn Los Angeles.
“Rydym yn obeithiol iawn am Gemau'r Gymanwlad hefyd - mae'r athletwyr bob amser yn falch iawn o wisgo fest Cymru yn ogystal ag un Prydain Fawr."