Newyddion S4C

Ffan Oasis o Gymru yn 'obeithiol' wrth gael ail gyfle i fachu tocyn

08/09/2024
Oasis

Mae un ffan Oasis yng Nghymru wedi dweud ei fod yn "obeithiol" wedi iddo gael ail gyfle i fachu tocyn i un o gyngherddau'r band.

Dywedodd Brain Hanes, sy'n 29 oed, ei fod yn un o'r rheini oedd wedi derbyn e-bost yn ei wahodd i gymryd rhan mewn cyfle i dynnu tocyn arall.

Roedd nifer o ffans wedi dweud eu bod nhw'n siomedig ar ôl methu a sicrhau tocynnau i'r gyfres o gigiau a fydd yn dechrau yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2025.

Dywedodd y band y byddwn nhw’n gwahodd “cefnogwyr cymwys” y maen nhw wedi “gallu eu hadnabod” i gymryd rhan yn y cyfle i dynnu tocyn, wedi iddyn nhw gyhoeddi eu bod am berfformio dwy sioe arall yn Llundain ar 27 a 28 Medi'r flwyddyn nesaf fel rhan o’u taith Live ’25. 

Pobl oedd wedi llwyddo i ymuno a chiw ar gyfer sioe benodol ar wefan Ticketmaster, ond wedi methu a phrynu tocyn, oedd yn gymwys i dderbyn e-bost o’r fath. 

Fe gafodd Mr Haines e-bost am 03.00 yn oriau man bore Sul yn ei wahodd i gofrestru. Cofrestrodd am 08.00 y bore gan dderbyn e-bost yn cadarnhau ei gais dwy awr yn ddiweddarach.

Dywedodd Brad Haines, ei fod yn “falch” o gael cyfle arbennig i geisio am docynnau. 

“Rwy’n hapus fy mod i wedi cael y cyfle i ymuno â'r balot oherwydd dyw nifer o bobl ddim wedi cael y cyfle," meddai.

“Bydd yn rhaid i fi ddisgwyl i weld beth sydd yn digwydd nesaf. Rwy’n aros yn obeithiol ond ar ôl colli allan y tro cyntaf dwi ddim yn disgwyl unrhyw beth. 

“Byddai jyst yn hapus petai fy mod i’n un o’r rhai lwcus.” 

'Rhwystredig'

Serch hynny mae rhai pobl wedi dweud eu bod yn teimlo’n “rhwystredig” ar ôl gorfod disgwyl dros awr i dderbyn cadarnhad ar ôl cofrestru.

Ac mae eraill wedi dweud eu bod yn “hynod siomedig” o beidio â chael cyfle i gofrestru o gwbl – a hynny ar ôl ceisio am docynnau am oriau ym mis Awst.  

Dywedodd Stuart Night, 39 oed o Hampshire, ei fod wedi ciwio “drwy’r dydd” er mwyn ceisio prynu tocynnau adeg hynny. 

“Rwy’n hynod o siomedig… What’s The Story (Morning Glory) oedd yr ail albwm i mi brynu erioed.” 

Dywedodd ei fod yn “falch” y bydd cyfle arall i geisio am docynnau ond ni lwyddodd ef i gael gwahoddiad i gofrestru er iddo gyrraedd “y meini prawf a gafodd eu gosod o flaen llaw".

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Oasis y byddai rhai pobl a all a'i fod yn gymwys yn derbyn e-bost er mwyn cofrestru ar gyfer y balot.

Byddai’r bobl sydd wedi llwyddo i ymuno a’r balot yn derbyn cod er mwyn cael y cyfle i allu prynu tocynnau ar gyfer sioeau Wembley, medden nhw. 

“Yn sgil y galw am sioeau ychwanegol, ac er mwyn osgoi’r ciwio a gafwyd yr wythnos diwethaf, nifer benodol o godau fydd ar gael," medden nhw.

Mae Ticketmaster wedi cael cais am ymateb. 

Llun: Noel Gallagher a Liam Gallagher yn Stadiwm Wembley. Llun gan PA / Zak Hussein.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.