Sy-mŵ-ch o’r ffordd! Oedi ar yr A55 wedi ‘ymwelwyr annisgwyl’
08/09/2024
Bu oedi ar yr A55 yng ngogledd Cymru fore Sul wedi i wartheg gael eu gweld ar y ffordd.
Dywedodd Traffic Cymru eu bod nhw wedi gweld “ymwelwyr annisgwyl” ger Parc Manwerthu Brychdyn ar gyffordd 36A.
“Mae swyddogion traffig ar y ffordd i'w gyrru'n ddiogel oddi yno,” medden nhw.
“Byddwch yn amyneddgar a bydd oedi byr.”
Cadarnhaodd Traffic Cymru yn ddiweddarach eu bod nhw wedi eu symud.
“Mae'r gwartheg wedi'u symud yn ddiogel, ac mae'r ffordd yn gwbl agored,” medden nhw.
“Diolch am eich amynedd - nawr gallwch chi sy-mŵ-d ymlaen!”
Daeth y rhybudd gwreiddiol wedi 09.00 y bore ac roedd y ffordd wedi ail-agor cyn 10.00.