Aled Siôn Davies yn ‘siomedig’ gyda’i berfformiad ar ôl ennill medal arian
Mae’r seren baralympaidd Aled Siôn Davies wedi dweud ei fod yn “hynod siomedig” gyda’i berfformiad ar ôl ennill medal arian yn y taflu pwysau (shot put) nos Sadwrn.
Enillodd y dyn o Gaerdydd fedal aur ar daflu disgen yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012, a medalau aur am daflu pwysau yn Rio a Tokyo.
Ond dywedodd ei fod yn teimlo y gallai fod wedi gwneud yn well ar ôl ennill medal arian gyda thafliad gorau o 15.10m yn ei bedwaredd Gemau Paralympaidd ym Mharis.
Cipiodd Faisal Sorour o Kuwait y fedal aur gyda thafliad o 15.31m.
“Y peth mwyaf siomedig oedd fy mherfformiad fy hun,” meddai wrth Sportsbeat.
“Byddwn wedi bod yn hapus dod yn olaf cyn belled â fy mod yn rhoi’r perfformiad gorau y gallwn ond yn anffodus wnes i ddim.”
Ychwanegodd: “Mae’n un anodd, mae wedi bod yn daith emosiynol i gyrraedd yma. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai creulon.
“Rwy'n dal i deimlo mai fi yw'r gorau a heno fe wnes i danberfformio. Nid fy noson i oedd hi.
“Fe ddes i mewn iddo gan feddwl ‘Rydw i’n mynd i dorri record byd heno a thaflu dros 17 metr.
"Rydw i wedi bod mor ddiamynedd yn dechnegol eleni oherwydd anafiadau ond does dim esgusodion, fe wnes i danberfformio.
“Mae’n un anodd ei lyncu ond mae’n bryd mynd yn ôl a darganfod beth aeth o’i le.”