Keir Starmer wedi tynnu portread o Margaret Thatcher ‘am nad ydw i’n hoffi pobl yn syllu arna’i’
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod wedi tynnu portread o Margaret Thatcher o’i stydi “am nad ydw i’n hoffi pobl yn syllu i lawr arna i”.
Fe gafodd Keir Starmer ei feirniadu ym mis Awst gan Geidwadwyr am dynnu'r paentiad o Margaret Thatcher i lawr o stydi Rhif 10 Stryd Downing.
Dywedodd y cyn Ysgrifennydd Cartref Ceidwadol Priti Patel ar y pryd ei fod yn dangos nad oedd yn hoffi “arweinwyr cryf benywaidd”.
Ond dywedodd Keir Starmer wrth gael ei gyfweld ar raglen BBC Laura Kuenssberg nad oedd gan y penderfyniad ddim i’w wneud â gwleidyddiaeth na hunaniaeth Margaret Thatcher.
“Rwy’n defnyddio’r stydi ar gyfer darllen yn dawel yn y prynhawn lle mae’n rhaid i mi gael … lle mae gen i bapur anodd sydd angen ei ddarllen,” meddai.
“Dyw hyn ddim byd i’w wneud â Margaret Thatcher o gwbl mewn gwirionedd. Dydw i ddim yn hoffi delweddau a lluniau o bobl yn syllu i lawr arna i.
“Mae hyn wedi bod yn wir erioed. Pan oeddwn i'n gyfreithiwr roeddwn i'n arfer cael lluniau o farnwyr. Dydw i ddim yn ei hoffi. Dwi'n hoffi tirweddau.
“Dyma fy stydi, dyma fy man preifat lle ydw i’n gweithio. Doeddwn i ddim eisiau llun o neb.”