Dod o hyd i gorff wrth chwilio am Jenny Hastings
Mae corff wedi’i ddarganfod wrth chwilio i ddod o hyd i Jenny Hastings, gwraig y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol dros yr Alban, Scott Hastings.
Dywedodd Heddlu’r Alban eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff ddynes yn ardal Hound Point yng Nghaeredin am tua 15.20 brynhawn ddydd Sadwrn.
Roedd Jenny Hastings wedi mynd i nofio ym Moryd Forth ddydd Mawrth ond heb ddod yn ôl.
Dyw’r corff ddim wedi’i adnabod yn swyddogol hyd yma ond mae ei theulu wedi cael gwybod.
Dywedodd llu’r heddlu nad ydyn nhn'n credu bod yna unrhyw amgylchiadau amheus ynghylch ei marwolaeth.
Bydd adroddiad yn cael ei ysgrifennu ar gyfer y procuradur ffisgal, sef gwasanaeth erlyn ac awdurdod sy’n ymchwilio i farwolaethau'r Alban.
Fe gafodd Gwylwyr y Glannau wybod fod Mrs Hastings wedi mynd ar goll ddydd Mawrth ac fe gafodd sawl bad achub a hofrennydd eu defnyddio er mwyn chwilio amdani.
Mewn datganiad yn ddiweddarach dywedodd teulu’r Hastings bod Mrs Hastings “wedi cael trafferth gyda’i hiechyd meddwl ers nifer o flynyddoedd”.
“Mae calonnau’r teulu Hastings ar chwâl,” meddai’r datganiad.
Fe chwaraeodd Scott Hastings, sy’n 59 oed, 65 o weithiau dros yr Alban rhwng 1986 a 1997 a dau o weithiau dros y Llewod.