Newyddion S4C

Cadw tair o siopau The Body Shop ar agor yng Nghymru

07/09/2024
The Body Shop

Fe fydd y siopau The Body Shop sydd yn weddill yng Nghymru yn aros ar agor wedi i’r cwmni gael ei achub o ddwylo’r gweinyddwyr. 

Fe gyhoeddodd consortiwm y dyn busnes Mike Jatania, Aurea, ddatganiad ddydd Sadwrn yn cadarnhau fod y proses o drosglwyddo’r busnes iddyn nhw bellach wedi’i gwblhau, gan olygu fod y cwmni wedi ei achub o ddwylo’r gweinyddwr. 

Dywedodd Aurea mai dyma oedd y dêl mwyaf yn hanes y busnes a’u bod yn gobeithio “adfywio” The Body Shop gan sicrhau ei bod yn “arwain y ffordd” yn y sector harddwch unwaith eto.  

Mae’r cytundeb yn golygu y bydd tair o siopau The Body Shop sydd yn weddill yng Nghymru yn parhau ar agor am y tro. 

Mae hynny’n cynnwys un lleoliad yng nghanolfan siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd, un siop yng nghanolfan siopa Pen-y-bont ar Ogwr, a’r llall yng nghanolfan siopa Fictoria yn Llandudno. 

Cafodd tair o siopau The Body Shop eu cau yng Nghymru ym mis Chwefror, gan gynnwys yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Brychdyn, Sir y Fflint, wedi i’r cwmni fynd i’r wal.  

Roedd cannoedd o swyddi wedi’u colli adeg hynny wedi i ddwsinau o siopau gael eu cau.

Y gred yw bod ‘na ddim cynlluniau i gau’r 116 o ganghennau The Body Shop sydd yn parhau ar agor ar hyd a lled y DU ar hyn o bryd. 

Fe gafodd The Body Shop ei sefydlu yn Brighton yn 1976 gan y Fonesig Anita Roddick, a hithau wedi bod yn angerddol dros gynhyrchu eitemau harddwch mewn modd moesol. 

Dywedodd Charles Denton, prif weithredwr The Body Shop fod yna “ddyfodol cynaliadwy o’n blaenau” a thrwy gydweithio’n agos â’r tîm rheoli maen nhw’n benderfynol o “adfer ysbryd unigryw” y cwmni. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.