Newyddion S4C

Bad Llandudno yn achub dyn o feic dŵr ben i wared ar ôl taro ar ei draws ar ddamwain

07/09/2024
Bad achub Llandudno

Daeth bad achub Llandudno ar draws dyn oedd yn cael ei lusgo gan y llanw allan i’r môr bnawn Gwener a hynny drwy siawns.

Roedd eu bad achub wedi ymateb i alwad gwahanol am 14.14 gan long saith metr oedd wedi mynd i drafferthion ger y Gogarth.

Ond wrth ddychwelyd fe wnaethon nhw sylwi ar feic dŵr ben i waered a gyrrwr yn cydio ynddo oedd yn cael ei lusgo allan i’r môr gan y llanw.

Llwyddodd y bad achub i achub y dyn a’i gludo’n ôl i’r lan.

“Wrth sylweddoli brys y sefyllfa, gofynnodd y criw am gymorth bad achub Conwy,” meddai llefarydd ar ran Sefydliad Brenhinol y Badau Achub Llandudno.

“Cymerodd gwirfoddolwyr Bad Achub Conwy y beic dŵr, gan ryddhau bad achub Llandudno i gludo'r claf i'r lan cyn gynted â phosibl.”

Dywedodd Graham Heritage o griw y bad achub ei fod yn dangos pa mor anodd ei ragweld oedd eu gwaith.

"Mae'n dangos nad ydych chi'n gwybod yn iawn beth rydych chi'n mynd i’w wynebu pan ddaw galwad,” meddai.

“Gall unrhyw beth ddigwydd, a rhaid i'n criw fod yn barod bob amser ar gyfer beth bynnag a ddaw.”

Cafodd y gyrrwr ei feic dŵr yn ôl yn ddiweddarach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.