Newyddion S4C

Cyhuddo dyn yng Nghaerdydd wedi achos o drywanu

07/09/2024
Llanrhymni

Mae dyn wedi ei gyhuddo yng Nghaerdydd mewn cysylltiad ag achos o drywanu.

Cafodd Heddlu’r De eu galw i Deras Glastonbury yn ardal Llanrhymni am 23.50 ddydd Mercher.

Roedd adroddiadau bod ymladd yn digwydd yno, medden nhw.

Mae Connor Hobbs, 29 o Dredelerch wedi ei gyhuddo o anafu yn fwriadol.

Bydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.