Newyddion S4C

Y Cenhedloedd Unedig yn galw am ymchwiliad wedi marwolaeth menyw yn y Lan Orllewinol

07/09/2024
Ayşenur Ezgi Eygi

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw am “ymchwiliad llawn” yn dilyn marwolaeth menyw Americanaidd-Twrcaidd yn ystod protest yn y Lan Orllewinol ddydd Gwener.

Fe gafodd Ayşenur Ezgi Eygi, oedd yn 26 oed, ei saethu’n farw gan filwyr Israel tra oedd hi’n cymryd rhan mewn protest yn erbyn ehangu setliad Iddewig yn nhref Beita ger Nablus, yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau lleol. 

Dywedodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) eu bod yn “ymchwilio” wedi adroddiadau fod dinesydd tramor wedi’i ladd ar ôl saethu yn yr ardal. 

Wrth ymateb i’r digwyddiad, dywedodd Stéphane Dujarric, llefarydd ar ran ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wrth y BBC eu bod “am weld ymchwiliad llawn” i’w marwolaeth, gan ddweud y dylai pobl fod yn “atebol” am yr hyn ddigwyddodd. 

Dywedodd hefyd bod rhaid diogelu dinasyddion “ar bob achlysur.”

Mae’r Tŷ Gwyn hefyd wedi galw am ymchwiliad yn dilyn marwolaeth Ms Eygi, gan ddweud fod Washington wedi ei "aflonyddu’n fawr" gan farwolaeth "drasig" dinesydd Americanaidd yno.

Disgrifiodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Antony Blinken, marwolaeth Ms Eygi fel "colled drasig."

Roedd Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, wedi dweud fod y fyddin yn Israel wedi ymddwyn mewn modd “farbaraidd”.

Roedd Ayşenur Ezgi Eygi yn cymryd rhan mewn protest gyda mudiad o blaid Palesteina o’r enw International Solidarity Movement

Fe gafodd ei chludo i ysbyty Rafidia yn Nablus a fu farw yn ddiweddarach. Dywedodd Dr Fouad Nafaa o’r ysbyty fod dinesydd o’r Unol Daleithiau yn ei hugeiniau wedi marw ar ôl iddi gael ei saethu yn ei phen. 

Hanes

Mae Lluoedd Amddiffyn Israel bellach wedi gadael dinas Jenin yn y Lan Orllewinol – sef dinas y maen nhw wedi’i feddiannu – ddydd Gwener, yn dilyn ymgyrch milwrol a wnaeth barhau am naw diwrnod yno. 

Dywedodd gweinidogaeth iechyd Palesteina fod o leiaf 36 o Balesteiniaid wedi eu lladd yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys 21 o bobl o Jenin. 

Yn ystod y 50 mlynedd diwethad mae Israel wedi adeiladu ‘setliadau’ yn y Lan Orllewinol a Dwyrain Jerwsalem, ac mae dros 700,000 o bobl Iddewig bellach yn byw yno. 

Mae setliadau o’r fath yn anghyfreithlon dan gyfraith ryngwladol - dyna safbwynt Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn ogystal â Llywodraeth y DU, ymhlith eraill – ond mae Israel yn gwrthod hynny. 

Llun: International Solidarity Movement

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.