Newyddion S4C

Llong ofod yn dychwelyd i’r Ddaear – ond heb y gofodwyr

07/09/2024
Starliner

Mae llong ofod Boeing Starliner wedi dychwelyd o'r gofod i’r Ddaear – ond heb y gofodwyr oedd i fod yn teithio arni.

Mae'r gofodwyr rheini yn dal ar y Llong Ofod Rhyngwladol ar ôl i broblemau technegol gyda’r Starliner olygu ei fod yn rhy beryglus iddyn nhw deithio arni.

Bydd Butch Wilmore a Suni Williams o NASA yn aros yn y gofod nes mis Chwefror gan obeithio dychwelyd ar long SpaceX.

Roedden nhw i fod i ddod yn ôl ar ôl wyth diwrnod ond bellach yn wynebu aros yn y gofod am wyth mis.

Glaniodd y Starliner gan ddefnyddio parasiwt yn White Sands yn nhalaith New Mexico ar ôl taith chwe awr yn ôl i’r ddaear.

Dywedodd Nasa yn gynharach fod Butch a Suni mewn hwyliau da ac mewn cysylltiad rheolaidd â'u teuluoedd.

Dywedodd Steve Stich, rheolwr rhaglen fasnachol NASA, fod y ddau ofodwr yn angerddol am eu swyddi.

“Maen nhw’n deall pwysigrwydd symud ymlaen nawr a... cael y cerbyd yn ôl yn ddiogel,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.