Newyddion S4C

Rygbi: Toby Booth i adael y Gweilch ar ddiwedd y tymor

06/09/2024
Toby Booth a Mark Jones

Fe fydd Prif Hyfforddwr y Gweilch, Toby Booth, yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor.

Mewn cyhoeddiad gan y rhanbarth ddydd Gwener, daeth cadarnhad mai tymor 2024/25 fydd tymor olaf Booth yn y rôl, wedi iddo fod yn hyfforddwr yn y Stadiwm Swansea.com ers 2020.

Cyn asgellwr Cymru ag hyfforddwr amddiffyn presennol y Gweilch, Mark Jones, fydd yn cymryd yr awenau'r tymor nesaf.

Bydd yn cael ei gynorthwyo gan a blaenasgellwr Justin Tipuric, a fydd yn ymddeol o chwarae ar ddiwedd y tymor i gymryd y rôl fel hyfforddwr amddiffyn.

Dywedodd Booth, sydd hefyd wedi hyfforddi Gwyddelod Llundain yn Uwch Gynghrair Lloegr, mai dyma’r “amser cywir” i gamu o’r neilltu.

Dywedodd: "Cyrhaeddais yma bedair blynedd yn ôl gyda phrosiect penodol, a dwi’n gadael oherwydd mai dyma’r amser cywir a bod yna olyniaeth naturiol mewn lle i gymryd drosodd.

Weithiau, yr amseru yw’r peth pwysicaf, a dwi’n meddwl mai dyma’r amser cywir i’r grŵp. Dw i hefyd yn credu mai dyma’r amser iawn i mi symud i wneud rhywbeth sydd ychydig yn wahanol. Mae gen i lot fawr o egni a chyffro i wneud hynny.

“Rwy’n hynod o falch o’r bobl sydd yn y tîm dwi wedi ei greu yma.”

Mae Mark Jones, sydd wedi bod yn brif hyfforddwr dros dro gyda thîm Dan 20 Cymru, hefyd wedi bod yn hyfforddwr ar dîm cyntaf Cymru, Scarlets a’r Crusaders yn Seland Newydd.

“Rwy’n gyffrous iawn am y cyfle hwn,” meddai Mark Jones. 

“Rydw i’n gwbl ymwybodol o’r fraint o hyfforddi'r Gweilch. Mae Toby wedi bod yn wych am ganiatáu i mi ddatblygu yn y rôl rydw i ynddi ar hyn o bryd a rhoi arweiniad gwych i mi.

“Rwy’n gobeithio ychwanegu at beth sydd wedi bod yn gyfnod da iawn i’r Gweilch.”

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.