Newyddion S4C

Cyhoeddi enw peilot o Gymru a fu farw mewn damwain hofrennydd y Llynges

06/09/2024
Leyshon

Mae enw Cymro o’r Llynges a fu farw pan laniodd hofrennydd Merlin yn y Sianel yn ystod ymarferiadau hyfforddi ddydd Mercher wedi’i gyhoeddi.

Ymunodd yr Is-gapten Rhodri Leyshon ag Uned Llynges Frenhinol Prifysgol Cymru, sy'n hyfforddi myfyrwyr, yn 2010.

Fe wnaeth teulu'r Is-gapten ryddhau teyrnged iddo ddydd Gwener.

Dywedodd ei deulu: "Rydyn ni i gyd mor falch o'r dyn talentog, angerddol, cryf a theyrngar yma. Fe fydd o yn ein calonnau bob amser. Ein bachgen gwych.

"Fydd ein bywydau ni byth yr un fath hebddo."

Ni chafodd y ddau filwr arall oedd ar fwrdd yr hofrennydd ar adeg y digwyddiad eu hanafu’n ddifrifol.

Disgrifiodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn John Healey y newyddion fel un “ofnadwy”.

Dywedodd wrth asiantaeth newyddion PA tra ar ymweliad â HMS Diamond yn Portsmouth ddydd Iau: “Newyddion ofnadwy. Newyddion gwirioneddol ofnadwy.

“Rwy’n defnyddio ofnadwy oherwydd dyma’r hyn y mae pawb yn ei gysylltu â’r lluoedd arfog, newyddion am bersonél yn y lluoedd arfog yn marw.

“Mae fy holl feddyliau a meddyliau’r rhai yn y Llynges ehangach rydw i wedi bod gyda nhw heddiw gyda’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr agos yr un rydyn ni wedi’i golli heddiw.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.