Apêl wedi byrgleriaeth honedig yn adeilad Coleg Harlech yng Ngwynedd
06/09/2024
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiad o fyrgleriaeth honedig yn adeilad Coleg Harlech yn Harlech fis diwethaf.
Mae'r llu'n apelio am wybodaeth am bedwar dyn gafodd eu gweld ar gamerâu cylch cyfyng gerllaw'r Coleg, a hynny am 19:00 ar ddydd Iau 8 Awst.
Dywed yr heddlu y dylai unrhyw un sydd gyda gwybodaeth gysylltu trwy ffonio 101 neu dros y we gan ddefnyddio'r cyfeirnod 24000694571.