Carcharu dyn o'r Rhondda am dreisio menyw tra'r oedd ar fechnïaeth
Mae dyn o'r Rhondda wedi cael ei garcharu am dreisio menyw a bod â lluniau anweddus yn ei feddiant.
Fe wnaeth Mathew Pugh, 40, dreisio'r fenyw ym mis Gorffennaf 2023.
Fe wnaeth staff diogelwch oedd yn gweithio mewn eiddo yn agos at ble digwyddodd yr ymosodiad gysylltu â'r heddlu gyda phryderon am y fenyw ar ôl ei gweld ar luniau CCTV.
Cyrhaedoddd swyddogion yr heddlu o fewn munudau, gan ddarganfod y fenyw wedi dychryn.
Roedd Mathew Pugh yn parhau yn yr ardal ar y pryd ac fe gafodd ei arestio yn dilyn ymchwiliad.
Pan y gwnaeth dreisio'r fenyw, roedd ar fechnïaeth am gael lluniau anweddus yn ei feddiant.
Ym mis Mai 2023, fe gysylltodd pobl oedd yn adnabod Pugh gyda'r heddlu wedi iddynt ddarganfod llunaiu anweddus ar ei ffôn.
Ar ôl i'r heddlu ddarganfod y cynnwys anghyfreithlon, gan gynnwys lluniau Categori A, ar ei ffôn, fe gafodd ei arestio.
Plediodd yn ddi-euog i'r cyhuddiad o dreisio ym mis Chwefror, ond fe'i cafwyd yn euog yn dilyn achos ym mis Gorffennaf.
Plediodd yn euog i gael lluniau anweddus yn ei feddiant a'u dosbarthu.
Ymddangosodd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener i gael ei ddedfrydu am yr holl droseddau.
Cafodd ei garcharu am 13 mlynedd gyda thrwydded estynedig o hyd at chwe blynedd.
Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Cwnstabl Ashley Colston: "Nid oedd dioddefwr Pugh mewn unrhyw ffordd yn gallu rhoi caniatad am ryw ar y noson y gwnaeth ei threisio.
"Dwi'n edmygu ei dewrder drwy gydol y broses, sydd wedi bod yn un hir ac anodd. Byddwn yn parhau i sicrhau ei bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arni."