Newyddion S4C

‘Pryderon difrifol’ am farwdy ysbyty fisoedd ar ôl camgymeriadau wrth ryddhau cyrff

06/09/2024
Grange Cwmbran

Fe wnaeth archwilwyr ddarganfod “tystiolaeth o risgiau parhaus a meysydd o bryder sylweddol” mewn marwdy ysbyty, bum mis ar ôl i’r cyrff anghywir gael eu rhyddhau i ddau deulu mewn achosion gwahanol.

O ganlyniad, mae gwasanaeth achredu cenedlaethol marwdai y DU wedi atal yn rhannol ei gydnabyddiaeth swyddogol o weithgareddau marwdy yn Ysbyty Athrofaol y Grange, Cwmbrân.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ei fod wedi rhoi mesurau diogelu ar waith i atal unrhyw ddigwyddiadau pellach, ac eu bod yn gweithio gyda staff y marwdy i “ddarparu gwelliannau parhaus”.

Digwyddodd y ddau ddigwyddiad ar wahân yn yr ysbyty ym mis Tachwedd 2023, gan sbarduno ymchwiliad mewnol, yn ogystal ag arolygiadau gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (HTA), sy’n trwyddedu gweithdrefnau post mortem y bwrdd iechyd.

Ymweliad

Fe wnaeth newyddion am yr ail ddigwyddiad hefyd ysgogi ymweliad dirybudd gan Wasanaeth Achredu’r DU (UKAS) ddechrau mis Ebrill.

Nid yw UKAS yn gorff rheoleiddio, ond mae’n gweithredu fel sefydliad annibynnol a gydnabyddir gan y llywodraeth a gomisiynwyd i “asesu yn erbyn safonau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ac yn rhyngwladol”.

Yn y Grange, canfu ei aseswyr “dystiolaeth o ddiffyg safoni” yn y gweithdrefnau ar gyfer rhyddhau cleifion, bum mis ar ôl y ddau ddigwyddiad “difrifol”.

Roedd gan rai o'r meirw oedd wedi cyrraedd y marwdy o’r gymuned dagiau adnabod a gwaith papur gwahanol i’r rhai sy’n cyrraedd yno o’r ysbyty, ac mae “anghysondeb” hefyd gyda gwybodaeth sydd wedi’i hychwanegu at gofrestr y corffdy, meddai archwilwyr.

Pryderon

Cododd UKAS bryderon hefyd ynghylch “diffyg mesurau diogelwch oedd yn eu lle”, gan gynnwys teledu cylch cyfyng, a dim rhestr o bersonél sydd â mynediad i’r cyfleuster.

Fe ddaeth UKAS o hyd i saith “maes gwella” a phenderfynodd atal yn rhannol ei hachrediad o wasanaeth marwdy’r Grange, yn amodol ar adolygiad, dros yr hyn a alwodd aseswr yn “bryderon difrifol am ddiogelwch a rheoli cleifion yn ddiogel”.

Mae’r bwrdd iechyd bellach yn gwneud newidiadau yn y marwdy, ar sail nifer o ganfyddiadau’r ymchwiliad.

“Mae teledu cylch cyfyng gwell yn cael ei weithredu”, meddai llefarydd, gan ychwanegu bod “ein holl safleoedd marwdy yn ddiogel, gyda mynediad cerdyn sweip yn ei le”.

“Yn ogystal, mae’r holl weithdrefnau perthnasol wedi’u diweddaru ac mae staff wedi cael hyfforddiant pellach i roi sicrwydd ychwanegol,” meddai.

“Rydym yn parhau i fynd i’r afael â holl argymhellion HTA ac UKAS, ac mae tîm trawsnewidiol yn gweithio ochr yn ochr â’n staff marwdy i gyflawni gwelliannau parhaus.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.