Rhan o borthladd Caergybi i ail agor 'ganol Ionawr'
Bydd rhan o borthladd Caergybi ar Ynys Môn yn ail agor ar 16 Ionawr, yn ôl cwmni fferi Stena Line.
Cafodd y porthladd ei gau ddechrau Rhagfyr oherwydd difrod wedi Storm Darragh.
Yn ôl Stena Line, bydd Terfynfa 5 yn ail agor os fydd "amodau'r tywydd yn rhesymol."
Dyw hi ddim yn glir pryd y bydd Terfynfa 3 yn ail agor.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y cwmni: “Wedi asesiad trylwyr a chynllunio, gallwn gadarnhau'r amserlen ar gyfer ail agor Terfynfa 5, ac mae cyflawni hynny erbyn 16 Ionawr yn bosibl.
“Mae hyn yn ddibynnol ar amodau rhesymol o safbwynt y tywydd, a byddwn yn darparu diweddariadau pellach wrth i faterion ddatblygu."
Mae'r holl wasanaethau fferi rhwng Dulyn a Chaergybi wedi eu canslo yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae hynny wedi effeithio ar filoedd o bobl oedd i fod i deithio rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon dros gyfnod y Nadolig.
Yn ôl Stena Line, roedd dau ddigwyddiad yn Nherfynfa 3 wedi i storm Darragh daro ar benwythnos 6-7 Rhagfyr.
Arweiniodd hynny at ran o'r strwythur yn dymchwel, yn ôl y cwmni.
Yn gynharach yn y mis, dywedodd Prif Weinidog Iwerddon, Simon Harris ei fod yn poeni am "ddifrifoldeb y sefyllfa."
Wrth ymateb i'r datblygiad diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran Irish Ferries: “Gydag eglurhad bellach am y sefyllfa yn yr wythnosau nesaf, bydd Irish Ferries yn dal i adolygu pa fesurau eraill sydd eu hangen o safbwynt ein llwybrau, er mwyn sicrhau ein bod yn cwrdd ag anghenion ein teithwyr a chwmniau."