Newyddion S4C

Pobl Ponty yn galw am fwy o ddigwyddiadau wedi llwyddiant y Brifwyl

Eisteddfod Genedlaethol 2024

Wrth i’r darnau olaf o’r Eisteddfod Genedlaethol eleni gael eu codi o Barc Ynysangharad, yn dilyn y llwyddiant ym Mhontypridd, mae trigolion yn galw ar y cyngor i gynnal mwy o ddigwyddiadau yno yn y dyfodol. 

Mae pobl y dref eisiau gweld mwy o ddigwyddiadau yn y parc, lleoliad maes yr Eisteddfod eleni, fel marchnad Nadoligaidd a Gŵyl y Gaeaf sydd yn digwydd yn flynyddol yng Nghaerdydd. 

O fwynhau’r gerddoriaeth, y bwyd a’r celf, i weld Michael Sheen yn y gynulleidfa, a’r cyfleoedd i ddysgu mwy o Gymraeg, roedd llawer ym Mhontypridd yn croesawu’r Eisteddfod ȃ breichiau agored.

Dywedodd Wes Parker, sy’n byw yn yr ardal, y byddai’n hoffi gweld digwyddiadau fel syrcas bwyd stryd fel sydd yng Ngerddi Sofia yng Nghaerydd. 

Ychwanegodd dynes leol arall, Jolene Hughes, y “dylai fod yna Ŵyl y Gaeaf yn sicr yn y parc, gan nad yw pawb yn gallu cyrraedd Caerdydd, felly, byddai’n neis i gael rhywbeth sydd yn fwy lleol.” 

Image
Llun o'r Eisteddfod
Eisteddfotwyr yn mwynhau

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, fe ddaeth llawer o fusnesau lleol at ei gilydd i ddathlu a rhoi Pontypridd ar y map. Fel ar Mill Street fe wnaeth busnesau Zucco’s, Martha’s Homestore a Storyville Bookstore ddod at ei gilydd i gynnal dathliad stryd gyda sawl ddigwyddiad pob diwrnod yn ystod wythnos y Brifwyl. 

Yn y gorffennol, roedd Pontypridd yn cynnal Ponty’s Big Weekend, (neu 'Ponty Park' fel byddai pobl leol yn ei adnabod), ac mae sawl un wedi galw am ddechrau hyn unwaith eto.

Roedd hwn yn ddigwyddiad blynyddol ddechreuodd yn 2008 nes iddo gael ei gynnal am y tro olaf yn 2014, er iddo ddychwelyd unwaith yn Awst 2019 gydag Ocean Colour Scene yn perfformio yn y parc. 

Ond heb y digwyddiadau yma, a’r Eisteddfod wedi gadael y dref, mae pobl leol yn teimlo bod twll wedi cael ei adael.

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Rhondda Cynon Taf:  “Yn dilyn Eisteddfod lwyddiannus iawn, mae'r Cyngor yn edrych ar opsiynau ar gyfer cynnal digwyddiadau posibl yn y dyfodol gan ddefnyddio yr ardal gerddi rhosod neu ardal Padog ym Mharc Coffa Ynysangharad.  

“Mae ein tîm digwyddiadau eisoes yn hynod o brysur yn trefnu holl ddigwyddiadau’r Hydref a Gaeaf gan gynnwys Spooktacular Calan Gaeaf a Mwynglawdd Teganau Siôn Corn yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, mae yna digwyddiadau Nadolig mewn pum rhan o ganol ein trefi a Rasys Ffordd Nos Galan a gynhelir yn Aberpennar ar y Flwyddyn Newydd.” 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.