Corws Opera Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol
Corws Opera Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol
Er cystal y canu mae 'na anghytgord ar hyn o bryd.
Aelodau corws Opera Cenedlaethol Cymru'n pleidleisio dros fynd ar streic, sefyllfa go annifyr.
Cyflog, oriau gwaith, cadw swyddi.
Mae'r cantorion yn poeni am y petha hynny i gyd.
"Mae 'na fygythiad real i dorri swyddi a'n niferoedd ni.
"Pan ddechreues i, roedd 'na 40 yn y corws a 'dan ni lawr i 30 rŵan.
"Maen nhw'n bygwth mynd a ni lawr dipyn yn llai na hynny.
"Sut fedrwn ni greu'r un safon o sain a grym efo cyn lleied o bobl?
"Mae 'na fygythiad real.
"'Dan ni dan gwmwl ac yn ofni.
"Maen nhw'n bygwth torri'n cyflogau ni o leiaf 15%.
"Bydd hynna'n mynd a ni lawr i ddim ond ychydig yn fwy na'r isafswm."
Fyddai o'n syniad da i chi streicio dan unrhyw amgylchiadau?
Fysach chi'n colli arian ac Opera Cenedlaethol Cymru yn colli arian o beidio cynnal perfformiadau hefyd?
"'Dan ni'm isio dim drwg i'r perfformiadau.
"'Dan ni yng nghanol cynhyrchiad newydd.
"Mae'r sioe'n mynd ymlaen ond y bygythiad sydd wedi'n gwthio."
Mae toriadau yng nghyllid Opera Cenedlaethol Cymru wedi arwain at brotest yn y Bae yn barod.
Maen nhw'n cael llai o arian gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr ac mae aelodau'r gerddorfa hefyd wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol.
Ymhlith y rheiny sy'n poeni mae un o'n harweinyddion mwya adnabyddus.
"Unwaith ni'n colli'r pethau hyn, ni byth yn cael nhw nôl.
"Rhaid meddwl yn galed iawn cyn neud dim byd ar y ddwy ochr."
'Dach chi'n poeni mai pendraw hyn, o bosib, ydy colli'r cwmni'n gyfan gwbl?
"Bysa hynna'n ofnadwy.
"Mae'n bwysig i Gymru bod gyda ni gwmni opera beth bynnag.
"Mae'n gwmni ardderchog."
Mewn datganiad fe ddywedodd yr Opera Cenedlaethol bod nhw'n parchu penderfyniad aelodau'r corws yn y bleidlais ond cynulleidfaoedd fydd ar eu colled yn sgil yr effaith ar berfformiadau.
Maen nhw'n dal i drafod â'r undebau ond yn dilyn y toriadau mae'n rhaid cydnabod realiti'r sefyllfa ariannol.
Fe fydd perfformiad cynta'r tymor nesa yng nghanolfan y Mileniwn mewn ychydig dros bythefnos.
Dydy hi ddim yn glir eto a fydd 'na streic bryd hynny.
Efallai y bydd angen codi ysbryd er mwyn bwrw 'mlaen â'r gan.