Newyddion S4C

Chwarter pobl 18 i 34 oed byth yn ateb galwadau ffôn

06/09/2024

Chwarter pobl 18 i 34 oed byth yn ateb galwadau ffôn

Mae'n sŵn cyfarwydd ond nid pawb sy'n ateb wrth i bobl ifanc droi eu cefnau ar alwadau ffôn.

I'r criw yma sy'n rhan o Gen Z, mae sgwrsio ar un o'r rhain yn rhywbeth eithaf anghyfarwydd.

"Ni jyst yn tueddu tecstio.

"Mae'n haws os ni isie trefnu rhywbeth neu ofyn ble wyt ti?

"Mae'n haws tecstio yn lle ffonio.

"Fi ddim yn rili galw ffrindiau fi gymaint, dim ond mewn argyfwng."

"Fi'n ateb os yw e'n rhieni fi ond ddim rili ffrindiau.

"'Sdim pwynt, ni'n tecstio ar group chats a pethau.

"Sa i'n meddwl mae pwynt mewn galw oherwydd ni ar y group chat anyway."

"Fi yn meddwl os chi'n siarad drwy neges destun chi'n cael amser...

"..i feddwl am be chi'n mynd i ddeud.

"Weithiau fi'n trio cael gafael ar ffrindiau fi ar y ffôn os mae'n bwysig ond dydyn nhw'm yn ateb."

Yn ôl ymchwil diweddar dyw chwarter y bobl rhwng 18 a 34 oed byth yn ateb galwadau ffôn gyda'r rhan fwyaf yn anwybyddu'r alwad neu ffafrio ymateb dros neges destun.

O dyfu i fyny mewn byd digidol i ofni'r gwaethaf pan mae'r ffôn yn canu.

Dim ond ambell i reswm dros newid i arferion cyfathrebu.

"Mae'n aml iawn oherwydd bod pobl yn teimlo'n anghyfforddus neu nerfus.

"Yn deud hynna, mae pobl ifanc yn rhagori wrth gyfathrebu yn ysgrifenedig ac yn ddigidol.

"Mae'r sgiliau newydd yn adlewyrchu sut mae cyfathrebu'n newid."

"Ers Covid, mae canolbwyntio ni 'di mynd bach yn llai.

"Ni ddim rili'n cael amser i alw oherwydd ni angen meddwl am bethau i siarad am a phethau."

"Cwpl o flynydde nôl oedd dim gyment o hyder 'da fi yn ateb y ffôn neu ffonio pobl fy hunan.

"Fi'n meddwl nawr fi 'di cael bach mwy o hyder yn ateb y ffôn."

Wrth i'r byd newid, mae'n harferion yn newid.

Y tro nesa' mae'r ffôn yn canu, tybed faint ohonoch chi fydd yn dewis ateb.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.