Trefnwyr gŵyl fwyd yn gobeithio y bydd pobl yn dychwelyd i 'harddwch' y Cymoedd wedi'r Eisteddfod
Mae un o drefnwyr gŵyl fwyd yng Nghwm Cynon wedi dweud ei bod yn gobeithio y bydd pobl yn dychwelyd i’r ardal ar ôl gweld “pa mor hardd yw’r Cymoedd” adeg yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.
Mae Angharad Walters yn rhan o dîm o ddau sydd yn trefnu Gŵyl Fwyd Aberdâr eleni, gyda’r ŵyl yn dychwelyd ddydd Sadwrn am yr ail dro ers ei sefydlu'r llynedd.
Fel rheolwr busnes ar gyfer Our Aberdare, sef sefydliad sy’n cynrychioli busnesau lleol, mae’n gobeithio y bydd pobl yn teithio o bob cwr o’r wlad i ail-ymweld â’r Cymoedd dros y penwythnos.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Fe gawsom ni’r Ŵyl Cyhoeddi ar gyfer yr Eisteddfod yma yn Aberdâr, ac roedd llwyth o bobl wedi dod i hynny. ‘Nathon ni llwyth o bethau i gyd-fynd gyda’r hyn oedd yn mynd ymlaen ym Mhontypridd hefyd.
“Roedd pobl wedi dod i Aberdâr adeg hynny, ac rwy’n gobeithio eu bod nhw wedi caru’r dre’ gymaint eu bod nhw’n awyddus i ddychwelyd.”
Tyfu
Bydd Gŵyl Fwyd Aberdâr yn ehangu eleni, wedi i dros 5,000 o bobl ymweld â’r ŵyl yr haf diwethaf.
Fe fydd yn cael ei chynnal ar hyd y dre’, yn hytrach ‘na ar Stryd y Farchnad yn unig, gyda thair prif safle o gymharu ag un y llynedd.
Bydd nifer o fusnesau lleol yn rhan o’r ŵyl, gan gynnwys bragdy Grey Trees, siop nwyddau Blas ar Gymru, siop coffi Helo Coffi a’r siop ddillad, Busy Pins and Needles.
Charlotte Drinkwater yw’r rheolwr yn Busy Pins and Needles, a dywedodd fod gwyliau o’r math yn “bwysig” er mwyn “denu pobl leol yn ogystal â’r rheiny na fyddai fel arfer yn dod i’r dref.”
“Fe allai pobl dod o hyd i fusnesau a grwpiau sy’n ffitio eu ffordd o fyw, eu personoliaeth, a’u hobïau – efallai pan nad oeddent nhw’n ymwybodol bod hynny ar gael iddyn nhw yn lleol,” meddai.
'Teithio o bob man'
Yn y gorffennol, byddai digwyddiadau tebyg i Ŵyl Fwyd Aberdâr yn fwy tebygol o ddenu cynulleidfa leol, meddai Angharad Walters.
Ond wedi i bobl teithio “o bob man” i ymweld â’r Cymoedd yn ddiweddar, mae’n obeithiol y bydd mwy yn awyddus i wneud y daith eleni.
“’Dyn ni’n gwybod y bydd pobl yn teithio oherwydd pan gawsom ni Gŵyl Fwyd Treorci, a chymryd manylion pobl ynglŷn â ble maen nhw wedi dod, roedd pobl wedi teithio o bob man i ymweld â’r Cymoedd.
“Rwy’n gobeithio y byddai’r bobl sydd wedi dod i Bonty ar gyfer yr Eisteddfod wedi gweld pa mor hardd yw’r Cymoedd.
“Ac efallai nad oeddent nhw wedi cael y cyfle i ddod i ni yn ystod yr Eisteddfod, ond fe allant nhw ar gyfer yr ŵyl fwyd."
Er bod Ms Walters yn gobeithio gweld pobl yn teithio o “bob man” i ymweld â’r ŵyl, mae’n awyddus i sicrhau bod mwy o bobl leol hefyd yn dod at ei gilydd yn eu cymuned leol.
“Mae’r dyddiau ble mae pobl yn mynd i ganol y dref ar gyfer eu siopa wedi hen fynd, mae'n rhaid i ni roi rheswm i bobl i ddod," meddai.