Cyhuddo bachgen 14 oed o ymosod ar heddwas yng Nghaergybi
06/09/2024
Mae bachgen 14 oed wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar heddwas yn ardal Caergybi ar Ynys Môn ddydd Iau.
Mae'r bachgen wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed i gerbyd heddlu, gwrthod cael ei arestio ac ymosod ar heddwas.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener.