Newyddion S4C

Cymeradwyo tai newydd mewn pentref ar Ynys Môn er gwaethaf ffordd ‘beryglus’

06/09/2024
Bodffordd

Mae 15 o dai newydd wedi eu cymeradwyo mewn pentref ar Ynys Môn er gwaethaf gwrthwynebiadau lleol, gan gynnwys pryderon fod y ffordd drwy'r pentref yn un “beryglus”.

Dywedodd y Cynghorydd Non Dafydd sy’n cynrychioli'r gymuned ei bod hi’n “ymbilio” ar gynghorwyr i wrthod y datblygiad “peryglus” ym Modffordd.

“Mae angen tai ond mae angen ei wneud mewn ardaloedd addas mewn modd addas,” meddai.

“Rwy’n erfyn arnoch i ystyried diogelwch pobol Bodffordd a gwrthod hyn.”

Ychwanegodd fod y datblygiad ar “stryd brysur rhwng dwy gyffordd brysur” oedd yn cael ei defnyddio gan geir, loriau a thractorau.

Ond fe gytunodd pwyllgor cynllunio'r ynys y gallai cymdeithas dai Grŵp Cynefin ddatblygu'r cartrefi, 14 ohonyn nhw'n rhai fforddiadwy, ar dir y tu ôl i Gapel Sardis.

Dywedodd asiant y datblygwyr, Sioned Edwards o Cadnant Planning, fod y tai yn gymysgedd o dai a byngalos, gydag un yn gartref pum ystafell wely i “gwrdd ag anghenion teulu penodol”.

“Byddai’r tai yn cyfrannu at yr angen am dai lleol,” meddai.

Image
Y cynllun
Cynllun o'r safle ym Modffordd

‘Dim angen’

Mewn datganiad ar ran trigolion Bodffordd, cytunodd y Cynghorydd Dylan Rees ei bod yn “ffordd hynod o brysur gyda llawer o draffig trwm,” a mynegodd bryderon am y fynedfa i’r B5109.

Roedd 43 o bobol ar restr tai oedd eisiau tai, meddai, “ond dim ond un oedd wedi dewis Bodffordd fel dewis cyntaf”.

Doedd “dim angen” am gartrefi ym Modffordd – ond roedd yna angen yn Llangefni, lle’r oedd siopau a gwasanaethau, meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Ellis ei fod wedi bwriadu siarad yn erbyn y cynllun, ond ei fod wedi “newid ei feddwl” ar ôl i ysgol pentref Talwrn gau gerllaw a “gweld yr effaith ar y gymuned”.

Dywedodd wrth y pwyllgor: “Mae’n teimlo fel bod teulu’n dod ata i mewn angen mawr am gartref bob wythnos. Mae tai yn brin, yn enwedig yn y pentrefi hyn.

“Dw i’n teimlo y dylen ni basio’r datblygiad i gadw teuluoedd lleol yn eu cymunedau a chadw cymunedau’n fyw.”

Cynigiodd y Cynghorydd Geraint Bebb ganiatáu'r cais ac fe gafodd ei gymeradwyo gyda naw pleidlais o blaid y datblygiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.